Esgobion yn galw am heddwch yn Israel a Gaza
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn galw am heddwch a chymod yn Israel a Gaza.
Mewn datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd heddiw (31 Hydref) mae’r chwech esgob, yn cynnwys Archesgob Cymru, yn rhybuddio na fydd trais yn arwain at heddwch parhaus ac yn galw am “drugaredd gweithredol” ar gyfer pob Palestiniad ac Iddew.
Disgrifiant ymosodiad Hamas ar Israel ar 7 Tachwedd fel “moesol wrthun” ac na fedrid ei gyfiawnhau ac yn galw ar Israel i gydnabod na all “dial, trais a dioddefaint pobl ddiniwed” arwain at heddwch. Maent hefyd yn annog saib yn yr ymosodiadau ar Gaza fel y gall cymorth dyngarol gyrraedd pobl yno.
Mae’r esgobion yn gofyn i bobl gymryd rhan mewn diwrnod o ympryd a gweddi ddydd Gwener (3 Tachwedd) ac am weddïau arbennig mewn eglwysi ddydd Sul.
Datganiad yr Esgobion ar y gwrthdaro yn Israel a Gaza
Mae’r erchylltra a welwyd yn Israel a Gaza yn y mis diwethaf wedi effeithio’n ddwfn ar Esgobion yr Eglwys yng Nghymru a chawsant eu herio gan yr erchylltra a’r trais a welwyd yn Israel a Gaza yn y mis diwethaf. Bydd dioddefaint gwystlon a’r trawma a achoswyd i blant a theuluoedd cyffredin eisoes yn parhau am flynyddoedd tu hwnt i’r gwrthdaro hwn.
Rydym yn galaru y dioddefaint a gweddïwn am heddwch. Rydym yn dyheu am weld pobl Israel a Palestina yn darganfod y llwybr i godi uwchlaw yr elyniaeth bresennol a chanfod yr ewyllys i fyw mewn harmoni, gan na all ffordd trais byth fod y llwybr i gymod a heddwch parhaus. Rydym yn awr yn galw am drugaredd gweithredol ar gyfer pob person Palestinaidd ac Iddewig yng nghanol eu dioddefaint ac am weithredu cadarn, gan bawb sy’n fodlon clywed, i agor y ffordd ar gyfer heddwch. Yn neilltuol rydym yn annog:
- Cydnabyddiaeth gan bawb na fedrir cyfiawnhau gweithredoedd Hamas ar 7 Hydref a’u bod yn foesol wrthun.
- Cydnabyddiaeth gan Wladwriaeth Israel na fedrir seilio heddwch yn y Dwyrain Canol ar sylfeini dial, trais a dioddefaint pobl ddiniwed, sut bynnag y cafodd ei bryfocio.
- Cydnabyddiaeth gan Israeliaid Iddewig a Phalestiniaid Mwslim a Christnogol na all eu ffyniant ei hun gael ei seilio ar drallod eu gelynion tybiedig.
- Saib yn yr ymosodiadau yn Gaza i ganiatáu i gyflenwadau angenrheidiol gyrraedd y rhai sydd yn yr angen mwyaf. Rydym yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn.
- Ymgysylltu gan bob person o ewyllys da i eiriol dros lwybr heddwch ar y rhai sydd mewn grym, drwy ysgrifennu, os yn bosibl, at lywodraethau a’r rhai sydd mewn grym.
- Cyfrannu arian ac adnoddau i’r rhai sy’n gweithio dros iachau meddygol a heddychlon yn Gaza, drwy gyfryngwyr tebyg i Friends of the Holy Land https://www.friendsoftheholyland.org.uk/Appeal/donate. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi anfon cyfraniad o £5,000 o’i Chronfa Cenhadaeth Dramor.
- Diwrnod o ympryd a gweddi dros heddwch yn y Dwyrain Canol ddydd Gwener 3 Tachwedd, a gweddi gorfforaethol yn ein holl eglwysi ddydd Sul 5 Tachwedd. Caiff manylion hynny eu cylchredeg yn y dyfodol agos.
+Andrew Cambrensis (Archesgob Cymru ac Archesgob Bangor, Andrew John)
+Gregory Llanelwy (Esgob Llanelwy, Gregory Cameron)
+Cherry Mynwy (Esgob Mynwy, Cherry Vann)
+John Abertawe ac Aberhonddu (Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas)
+Mary Llandaf (Esgob Llandaf, Mary Stallard)
Dorrien Davies, Darpar Esgob Tyddewi