Esgobion yn galw am weddi a chymorth i bobl Bukavu
Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi ychwanegu eu llais at y galwadau am gymorth rhyngwladol i'r rhai sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro presennol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Yn eu datganiad, dywed yr Esgobion:
“Am fwy na deng mlynedd, mae Esgobaeth Tyddewi Esgobaeth wedi meithrin perthynas gydag Esgobaith Bukavu, yn rhan ddwyreiniol y DRC, perthynas sydd wedi cyfoethogi ein gwaith Cristnogol a'n tystiolaeth Gristnogol yn y ddwy wlad.
“Felly, mae'n dorcalonnus gweld y dioddefaint y mae pobl Bukavu, a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn gyffredinol, yn ei brofi o ganlyniad i'r gwrthdaro arfog presennol yn y rhanbarth.
“Mae ein partneriaid eciwmenaidd yn Bukavu wedi dod â'r hanesion mwyaf gofidus i ni o drais, herwgipio, treisio, ysbeilio, prinder bwyd, a diffyg gwasanaethau sylfaenol wrth i'r sefyllfa ddyngarol a diogelwch barhau i waethygu, gyda miliwn o bobl wedi'u dadleoli ar hyn o bryd.
“Yng nghanol y sefyllfa ofnadwy hon, mae eglwysi yn Esgobaeth Bukavu yn gweithio i gysgodi'r digartref, bwydo'r newynog, iacháu'r cleifion a'r anafedig ac i geisio adfer heddwch, gan ddarparu esiampl ddisglair o dystiolaeth Gristnogol.
“Ond mae angen ein gweddïau, a'n cymorth ymarferol. Rydym yn annog pawb sy'n cael eu cyffwrdd gan eu sefyllfa i gefnogi asiantaethau fel Cymorth Cristnogol, sy'n gweithio i leddfu'r trallod.
“Ac rydym yn galw ar lywodraethau, sefydliadau rhyngwladol, a phob person o ewyllys da i helpu trwy roddion, eiriolaeth, neu roi uniongyrchol, er mwyn dod â'r dioddefaint i ben ac adfer heddwch cynaliadwy.”
Mae’r Esgobion yn tynnu sylw at y llythyr hwn a dderbyniwyd ga neu partneriaid eciwmenaidd yn Bakavu, sydd yn rhoi darlun dirdynnol o’r dioddefaint.