Esgobion yn galw am weddïau i nodi blwyddyn ers dechrau gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn apelio ar i gynulleidfaoedd ymuno â nhw mewn gwedddros heddwch, cyfiawnder a chymod er mwyn nodi blwyddyn gyfan ers dechrau’r gwrthdaro diweddar yn y Dwyrain Canol.
Ar y Sul agosaf at y dyddiad, sef Hydref 6, maen nhw’n galw ar bob eglwys i weddïo. Dywedant fod y dioddefaint enbyd a’r egwyddorion hawliau dynol sydd ynghlwm â’r gwrthdaro yn “rhy bwysig i’w hanwybyddu” ac yn rhy bwysig i’w defnyddio i gefnogi “pwyntiau gwleidyddol pleidiol”.
Mae eu datganiad llawn yn dilyn.
Datganiad yr Esgobion
Wrth i Hydref 7fed, agosáu gan nodi blwyddyn ers dechrau'r cylch trasig diweddar o drais yn Israel a Phalestina, anogwn holl aelodau'r Eglwys i weddïo am heddwch, cyfiawnder a chymod.
Ar y dydd Sul agosaf, Hydref 6ed, gofynnwn i gynulleidfaoedd gofio pawb sydd wedi’u heffeithio gan y trais ac i weddïo am ddatrysiad cyflym a chyfiawn i’r gwrthdaro annioddefol o boenus hwn sydd wedi costio llawer gormod o fywydau.
Rydym wedi galw ar bob ochr i roi terfyn ar elyniaeth; am ryddhau gweddill gwystlon Israel; am ddiwedd ar gweithredu milwrol Israel yn Gaza; ac am setliad cyfiawn i'r materion sylfaenol sydd wedi ysgogi gwrthdaro yn y Wlad Sanctaidd a'r ardal gyfagos cyhyd.
Mae'r materion o ddioddefaint a hawliau dynol sydd dan sylw yma yn rhy bwysig i'w hanwybyddu. Maent yn rhy bwysig i'w symleiddio. Ac maent yn rhy bwysig i'w defnyddio i gefnogi pwyntiau gwleidyddol pleidiol neu i hyrwyddo anghytgord rhwng cymunedau yn ein cymdeithas ein hunain.
Bydd y ffordd i heddwch yn hir, yn gymhleth ac yn boenus, ond ni all fod yn fwy poenus na'r ing di-ildio a'r ansicrwydd presennol a brofir gan filiynau, boed yn Iddewig, yn Fwslimaidd, yn Gristnogol, o grefyddau eraill neu heb unrhyw ffydd.
Gyda dioddefaint y rhain, ein brodyr a chwiorydd, mewn cof, a chydag ysbryd Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, yn ein calonnau, gweddïwn am ddiwedd ar drais ac am ddechreuad heddwch parhaol.
Archesgob Cymru, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Llandaf, Mary Stallard
Esgob Tyddewi, Dorrien Davies
Esgob Enlli, David Morris
Gweddïwn
Mae Esgob Llanelwy wedi ysgrifennu'r litani fer ganlynol ar gyfer pobloedd Israel, Palestina a Lebanon.
Dduw Abraham, tad cariadus holl bobloedd y Wlad Sanctaidd a'r Dwyrain Canol,
Clyw wylofain dy blant, a phawb sy'n dioddef yn y storm o drais
A ddechreuodd flwyddyn yn ôl, ac sy’n parhau i effeithio'r wlad a fendithiaist drwy bresenoldeb dy Fab.
Yn dy drugaredd, Arglwydd,
Clyw ein cri.
Cofiwn am yr holl bobl ddiniwed hynny, y plant a'r henoed,
Y mae eu marwolaethau yn clwyfo'n dynoliaeth mewn modd mor drasig.
Cysura'r galarus ar bob ochr i’r rhaniadau.
Tyrd â gobaith i ganol y gwrthdaro a thyrd â diweddglo i'r golwg.
Yn dy drugaredd, Arglwydd,
Clyw ein cri.
Arwain yr holl bobl allan o dywyllwch i oleuni,
O ryfel i heddwch,
O elyniaeth i gymod,
O ysbryd dialedd i ysbryd trugaredd.
Yn dy drugaredd, Arglwydd,
Clyw ein cri.