Esgobion “yn bryderus iawn” am Fesur Gwrth LGBT Ghana
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn mynegi eu pryder dwys am ddeddf arfaethedig yn Ghana a fyddai’n cosbi pobl gyfunrywiol.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, maent yn annog esgobion yr Eglwys Anglicanaidd yn Ghana i ddiogelu a gofalu’n dyner am y gymuned LGBT+ ac yn rhybuddio y gallent, trwy gefnogi’r Mesur, danseilio eu partneriaeth â’r Eglwys yng Nghymru.
Mae’r datganiad llawn isod.
Datganiad yr esgobion ar Fesur Ghana
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn cael eu tristau a’u siomi bod adroddiadau bod ein cyd-esgobion yn yr Eglwys Anglicanaidd yn Ghana wedi awgrymu eu bwriad i gefnogi Mesur eu llywodraeth dan y teitl ‘Hyrwyddo Hawliau Rhywiol Priodol a Gwerthoedd Teuluol Ghana’.
Rydym yn bryderus iawn am y Mesur hwn, gan gredu y bydd ei ganlyniadau i aelodau o’r gymuned LGBT+ yn mynd yn groes i alwad Crist i garu ein gilydd fel y mae ef yn ein caru ni. Rydym am sicrhau ein brodyr a chwiorydd LGBT+ ein bod yn eu cefnogi, ac y byddwn yn gweddïo drostynt, ac yn galw ar esgobion Anglicanaidd y wlad i’w diogelu a gofalu amdanynt fel plant annwyl Duw.
Rydym yn ymwybodol bod gan un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, bartneriaeth gydag Esgobaeth Asante Mampong yn Ghana ac rydym yn dymuno gweld y cyswllt yn cael ei gryfhau, a hynny’n enwedig wrth i ni baratoi i groesawu esgob newydd yn Abertawe ac Aberhonddu. Yn anffodus, rydym yn gweld mai’r cyfan a wnaiff cefnogaeth ein cyd-esgobion i’r Mesur hwn yw tanseilio’r cyswllt gwerthfawr hwn.
Rydym yn uno ein lleisiau gydag eraill sy’n annog ein cyd-esgobion yn Ghana i gadarnhau eu dyletswydd fugeiliol i ddiogelu a gofalu am holl blant Duw, yn unol â datganiadau cyson y Cymundeb Anglicanaidd ar hyd y blynyddoedd, fel Cyfathrebiad Archesgobion 2005 sy’n datgan:
“Mae erlid neu fychanu bodau dynol y mae eu serchiadau yn digwydd bod tuag at bobl o’r un rhyw yn anathema i ni. Rydym yn sicrhau pobl gyfunrywiol eu bod yn blant i Dduw, yn cael eu caru a’u gwerthfawrogi ganddo ef, ac yn haeddiannol o’r gorau y gallwn ei roi o ran gofal bugeiliol a chyfeillgarwch.” (Cyfathrebiad yr Archesgobion, Dromantine, 2005)
Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John
Esgob Llanelwy, Y Gwir Barchedig Gregory Cameron
Esgob Tyddewi, Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy
Esgob Llandaf, Y Gwir Barchedig June Osborne
Esgob Mynwy, Y Gwir Barchedig Cherry Vann