Esgobion yn galw am ddileu dyledion sy’n gyrru gwledydd i newyn
Ymunodd Archesgob Cymru ac Esgob Tyddewi ag esgobion o bob rhan o’r byd yr wythnos hon yn galw am ddileu dyledion gwledydd incwm isel.
Maent eisiau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig arwain y ffordd wrth orfodi arweinwyr i ganslo dyledion sy’n hyrddio cymunedau i newyn a thlodi.
Mewn gweithred symbolaidd, a drefnwyd gan yr elusennau Cymorth Cristnogol ac Action for Southern Africa yng Nghynhadledd Lambeth, rhwygodd yr esgobion siec yn cynrycholi’r taliadau dyled a wnaiff gwledydd incwm isel fel Zambia bob blwyddyn.
Zambia yw’r wlad gyntaf i alw am ailstrwythuro dyled o dan Fframwaith Cyffredin newydd yr G20, a lansiwyd yn 2020. Mae’r wlad yn trafod ailstrwythuro ei dyledion gyda chredydwyr, yn cynnwys y cwmni Prydeinig BlackRock. Mae ‘Debt Justice’ wedi amcangyfrif y gallai BlackRock wneud elw o $180 miliwn os nad ydi’r dyledion yn cael eu talu yn llawn.
Mae prisiau bwyd ac yn ni sy’n codi’n aruthrol, yn rhannol oherwydd ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn gyd-destun parhad y pandemig a diffyg mynediad brechlynnau, yn gwaethygu’r argyfwng dyled a wynebir gan wledydd incwm isel.
Meddai Archesgob Cymru, Andrew John, “Dydych chi ddim yn curo rhywun sydd ar y llawr. Mae’n gwledydd tlotaf eisoes ar eu gliniau oherwydd y pandemig, newid hinsawdd a gwrthdaro. Mae ad-daliadau dyled ar ben hynny yn ergyd farwol i gynifer. Mae’n amser i fenthycwyr a llywodraethau i ddangos arweiniad moesol a chyfiawn a chynnig llaw dosturiol trwy ddileu dyledion.”
Meddai’r Archesgob Albert Chama, Archesgob Eglwys Canolbarth Affrica, “Mae Zambia mewn argyfwng dyled, gyda gwariant ar wasanaethau cymdeithasol wedi disgyn 20% rhwng 2019 a 2021.
“Oherwydd hyn, mae pobl gyffredin Zambia yn colli allan ar ofal iechyd, addysg a phrosiectau datblygu fyddai’n rhoi cyfle teg i ffynnu ac adeiladu dyfodol iddynt, fel pobl yn y DG, Ewrop ac UDA.
“Am yn rhy hir, mae cyfalaf preifat mewn gwledydd cyfoethog wedi rhoi bywydau pobl mewn perygl trwy fynd am elw gormodol ar fenthyciadau.. Rhaid i hyn ddod i ben.”
Meddai Archesgob Thabo Makgoba, Archesgob De Affrica a Cape Town, “Ni allwn anwybyddu anghyfiawnderau economaidd sy’n difreintio cymunedau tlotaf y byd. Mae’r anghyfiawnderau hyn yn bygwth urddas dynol.
“Rwy’n sefyll gyda ‘Action for South African Debt’, ‘Debt Justice, Cymorth Cristnogol ac eraill i gondemnio’r amodau annheg a wynebir gan wledydd yn Neheubarth Affrica pan fyddant angen benthyciad.”
Meddai Pete Morrey, Pennaeth Ymgyrchu Cymorth Cristnogol, “Mae pandemig y coronafirws wedi gadael pobl oedd eisoes yn ymdrechu, heb ffordd i fwydo eu teuluoedd a goroesi’r argyfwng hwn.
“Mae ad-daliadau dyled yn cymryd adnoddau sy’n hollbwysig ar gyfer ymdopi gydag argyfyngau iechyd, cymdeithasol ac economaidd a gododd o’r pandemig.
“Mae gan Lywodraeth y DG gyfrifoldeb moesol i arwain y byd i fynnu fod benthycwyr yn dileu dyledion sydd yn gyrru cymunedau o amgylch y byd i newyn a thlodi.”
Yn y llun uchod o'r chwith: Tricia Sibbons, ACTSA, Esgob Mark Strange, Primus yr Alban, Esgob Lesotho, Vicentia Kgabe, Archesgob Eglwys Canolbarth Affrica, Albert Chama, Archbishop John McDowell, Primatiaid Holl Iwerddon, Archesgob Cymru, Andrew John, Archesgob De Affrica a Cape Town, Thabo Makgoba, Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy