Esgobion yn cymeradwyo galwad am gadoediad Gaza a rhyddhau gwystlon
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi datganiad sy’n galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza a rhyddhau’r gwystlon Israel sy’n weddill.
Maen nhw’n ailgadarnhau’r datganiad diweddar gan Dŷ’r Esgobion yn Lloegr sydd hefyd yn dadlau o blaid “heddwch cyfiawn” i Israeliaid a Phalestiniaid ac yn condemnio teimlad gwrthsemitaidd a gwrth-Fwslimaidd yn ein cymunedau ein hunain yn y DU.
Datganiad Tŷ'r Esgobion
Wrth i Israel baratoii ymosod yn Rafah, rydym yn galw am gadoediad ar unwaith.
Rhaid atal yr ymosodiad di-baid ar Gaza, sy’n achosi colli bywyd a difrod enbyd i’r seilwaith sifil. Nid oes cyfiawnhad moesol ar gyfer y dull hwn o ryfela.
Rydym yn annog Israel i gadw at orchymyn yr ICJ ac i sicrhau bod Palestiniaid yn cael mynediad at fwyd, dŵr, gofal iechyd a diogelwch, sydd wedi'u gwadu iddynt ers amser maith. Rydym yn croesawu galwad ddiweddar yr Ysgrifennydd Tramor am saib ar unwaith yn yr ymladd a byddem hefyd yn croesawu cynrychiolaeth bellach i Lywodraeth Israel ynglŷn â’r ffordd y mae’n arfer ei hawl i hunanamddiffyn ac i gadarnhau ymlyniad at gyfraith ryngwladol.
Rhaid i bob ochr ddechrau dychmygu dyfodol y tu hwnt i'r gwrthdaro hwn
Rydym yn parhau i eiriol dros ryddhau'r gwystlon sy'n weddill a rhoi diwedd ar yr ymosodiadau taflegrau ar Israel gan Hamas. Rhaid i bob ochr ddechrau dychmygu dyfodol y tu hwnt i'r gwrthdaro hwn: am heddwch cyfiawn i Israeliaid a Phalestiniaid. Ni all y rhyfel hwn arwain at gyfuno system o feddiannaeth sydd wedi gwadu eu hawliau a'u rhyddid yn rhy hir i Balesteiniaid.
Wrth weddïo dros bawb yn Israel a Phalestina sy’n byw yng nghanol rhyfel ac mewn ofn rhyfel, gweddïwn yn arbennig dros y cymunedau Cristnogol Palesteinaidd, fel y byddant yn adnabod cryfder a phresenoldeb Ysbryd Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd.
Wrth inni ystyried effaith y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol ar gysylltiadau cymunedol yma yn y DU, rydym unwaith eto yn condemnio pob drwgdeimlad gwrthsemitaidd a gwrth-Fwslimaidd. Cawn ein brawychu gan y bygythiadau a cham-drin cynyddol ar Iddewon ar gampysau prifysgolion, yn ein cymdogaethau, ac ar-lein. Apeliwn ar ein cymunedau i fod yn ddiogel i bawb beth bynnag fo'u cenedligrwydd, ethnigrwydd neu grefydd. O’n rhan ein hunain, rydym yn ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’n cyd-arweinwyr ffydd er lles pawb, er gwaethaf a chyda’n gwahaniaethau.
Tŷ yr Esgobion
Esgobion yr Eglwys yng Nghymru