Esgobion yn talu teyrnged i Ei Mawrhydi Y Frenhines
Arweiniodd y Frenhines fywyd o ffydd Gristnogol oedd yn enghraifft i’w drysori, meddai Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, yn talu teyrnged i Ei Mawrhydi Y Frenhines.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar ran yr Eglwys yng Nghymru, mae’r saith esgob yn mynegi eu tristwch mawr ar farwolaeth y Frenhines ac yn diolch am ei ffydd ddidwyll a phybyr. Maent hefyd yn canmol y “gwasanaeth ac ymroddiad rhyfeddol” a roddodd i’r genedl a’r Gymanwlad.
Dywedant fod y Teulu Brenhinol yn eu gweddïau wrth iddynt alaru am y Frenhines .
Darllen y datganiad llawn, yn ogystal ag arweiniad ar gyfer eglwysi, gweddïau a litwrgi
Teyrnged i’w Mawrhydi Y Frenhines
Cafodd y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ei dderbyn gyda thristwch mawr gan Esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o’r boblogaeth, rydym wedi byw ein holl fywydau o fewn ei theyrnasiad, ac nid oes gennym unrhyw brofiad o unrhyw frenin neu frenhines arall yn y Deyrnas Unedig.
Hyd yn oed wedyn, mae’n amlwg fod Ei Mawrhydi yn rhyfeddol yn y gwasanaeth ac ymroddiad a roddodd i’r genedl a’r Gymanwlad. Byddwn i gyd yn ymwybodol o’r ymrwymiad a wnaeth ar ei phen-blwydd yn un ar hugain oed yn 1947, pan addawodd ei holl fywyd i wasanaeth y bobl. Mae’n ymrwymiad na wnaeth erioed gilio ohono, ac roedd yn wasanaeth a roddodd gyda balchder. Goroesodd drwy amserau da a gwael, drwy gyfnodau o ddathlu ac anawsterau ym mywyd y genedl. Pryd bynnag y galwyd arni i siarad gyda’r genedl a’r Gymanwlad, siaradodd mewn ffordd a’n hatgoffai am bwy oeddem a galw arnom i fwy o ymateb a dyfodol mwy gobeithiol. Wedi’i geni i fraint, trawsnewidiodd y frenhiniaeth yn dawel gan ei haddasu dros gyfnod. Fel person, roedd yn nodweddu agwedd bwysig i fywyd cenedlaethol, gwasanaeth er budd gorau pawb.
Rydym yn neilltuol o ddiolchgar i Dduw am ffydd Gristnogol Ei Mawrhydi. Adeg y Nadolig, yr oedd ei negeseuon i’r genedl bob amser yn sôn am ei ffydd bersonol yng Nghrist fel Iachawdwr. Canmolodd gariad at Dduw a chymydog, a chafodd ei bywyd ei fyw mewn ffordd oedd yn dawel yn rhoi blaenoriaeth i ymrwymiad i addoliad Cristnogol ar ddyddiau Sul, a threfn o weddi ddyddiol. Fel cymaint arall yn ei bywyd, cafodd hyn ei gyflawni’n dawel ond yn ddidwyll a gydag ymroddiad mawr. Mae hyn yn enghraifft o ffydd y byddwn yn ei anwylo.
Mae ein gweddiau gyda'r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist hon.
Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor
Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy
Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi
Y Gwir Barchedig June Osborne, Esgob Llandaf
Y Gwir Barchedig Cherry Vann, Esgob Mynwy
Y Gwir Barchedig John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu
Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor