Datganiad ‘Bishops’ ar Gabinet newydd Cymru
Gyda phenodiad y Cabinet newydd yng Nghymru, rydym yn falch o weld bod dwy swydd newydd wedi eu creu ar lefel y Cabinet.
Rydym yn croesawu yn arbennig benodiad Jane Hutt i’r swydd newydd o Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a Julie James fel Gweinidog Newid Hinsawdd. Dymunwn bob bendith iddynt yn eu gwaith wrth wneud Cymru yn wlad lle mae pob cymuned yn ffynnu, a lle mae pob cam posibl yn cael ei gymryd i daclo’r Argyfwng Hinsawdd.