Esgobion yn annog y Prif Weinidog newydd i amddiffyn pobl fregus
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn galw ar y Prif Weinidog newydd i roi blaenoriaeth i anghenion y bobol fwyaf bregus.
Mewn datganiad, maen nhw’n galw ar bwy bynnag sy’n cymryd drosodd oddi wrth Liz Truss i ymateb yn eofn i’r argyfwng costau byw ac i anghenion ffoaduriaid.
Datganiad yr Esgobion
Fel Esgobion yr Eglwys yng Nghymru rydym yn cydnabod yr heriau a’r gofynion enfawr sydd ar ein harweinwyr gwleidyddol ar hyn o bryd ac rydym yn eu sicrhau o’n gweddïau.
Credwn mai blaenoriaeth y Prif Weinidog nesaf yw amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Rydym yn eu hannog i ymateb yn feiddgar i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sydd, fel y mae ein heglwysi eisoes yn dyst iddo, yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau. Mae llawer o bobl yn cael profiad eithafol o galed ac yn gorfod troi at fanciau bwyd a rhoddion elusennol er mwyn cael digon o fwyd i'w roi ar eu byrddau.
Rydym hefyd yn pryderu bod anghenion y rheini mewn gwledydd eraill, gan gynnwys ffoaduriaid, yn cael eu gwthio i’r cyrion a’u hanghofio.
Rydym yn galw am arweiniad gwleidyddol sy'n dangos tosturi, uniondeb a chymhwysedd ac a all ein huno ni i gyd i weithio er lles pawb.
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Llandaf, June Osborne
Esgob Trefynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Cynorthwyol ym Mangor, Mary Stallard