Esgobion yn annog ‘consensws cryf’ ar Gyfansoddiad Cymru i’r dyfodol
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn galw am ddatblygu “gweledigaeth ar y cyd” ar gyfer dyfodol Cymru wrth iddynt ymateb i’r cyhoeddiad adroddiad pwysig ar y Cyfansoddiad heddiw (Ionawr 18).
Dywedant y bydd “consensws cryf” am gymdeithas yn helpu Cymru i wynebu ei heriau yn hyderus. Hefyd ymrwymodd yr esgobion eu cefnogaeth ymarferol a gweddïau i’r drafodaeth barhaus.
Gellir darllen adroddiad llawn y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yma:
Datganiad gan Esgobion
Nodwn adroddiad y Comisiwn Annibynnol fel cyfraniad pwysig at y drafodaeth am ddyfodol ein cenedl. Wrth i’r drafodaeth symud ymlaen, gobeithiwn y bydd pob ochr yn cydnabod y gall gwahanol safbwyntiau gael eu dal yn ddidwyll a diffuant, a bod yn rhaid i holl gymdeithas Cymru ymdrechu i ddynodi’r gwerthoedd cymunedol a’r weledigaeth ar y cyd sy’n ffurfio cymdeithas iach, ffyniannus, gofalgar a chynhwysol.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn weithgar ym mhob cymuned ar draws y wlad, a gwyddom o’n profiadau a gan glerigwyr ac aelodau’r eglwys ar draws Cymru, ein bod yn rhannu ymrwymiad dwfn i les ein cymdogion, ein cymunedau a’r gymdeithas ehangach yr ydym yn chwarae rhan ynddi.
Mae Cymru yn wynebu llawer o heriau ond bydd yn eu hwynebu yn fwy hyderus byth os adeiladwn gonsensws cryf am y math o gymdeithas yr ydym ei heisiau, ac os ydym yn sicrhau dealltwriaeth ar y cyd ac sy’n dangos parch lle gall pobl o bob cefndir a chred gyfrannu at y lles cyffredin. Ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru, mae ein ffydd Gristnogol yn ein hysbrydoli i gefnogi’r gwaith hwn gyda gweithredu ymarferol a hefyd mewn gweddi a byddwn yn parhau i chwarae ein rhan lawn mewn datblygiadau yn ein cymdeithas yn y dyfodol.
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory K Cameron
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Llandaf, Mary Stallard
Esgob Tyddewi, Dorrien Davies