Esgobion yn croesawu ymrwymiad i wahardd therapi trosi
Mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn croesawu datganiad diweddar Llywodraeth Cymru ei bod yn ymrwymo i wahardd therapi trosi yn ei holl ddulliau. Dymunwn ailgadarnhau ein cefnogaeth i’r gymuned LHDTC+ ac unrhyw gamau sy’n eu gwarchod rhag yr ymarfer difrïol a niweidiol hwn, fel y gwnaethom yn glir yn ein datganiad y llynedd:
Mae Mainc yr Esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru yn croesawu’r cyhoeddiad yn Araith y Frenhines y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwahardd therapi trosi i bobl hoyw.
Credwn bod rhywioldeb pobl yn rhodd gan Dduw i’w goleddu a’i anrhydeddu. Mae’n rhan ganolog o bwy ydym ni fel bodau dynol ac yn fynegiant o amrywiaeth gogoneddus Duw yn ei greadigaeth.
Credwn bod unrhyw beth sy’n ceisio awgrymu bod rhywbeth yn hanfodol anghywir neu bechadurus yn y rhai nad ydynt yn heterorywiol neu sy’n ceisio gorfodi pobl i geisio newid eu rhywioldeb yn anghywir. Mae’n gamdriniaeth ac yn achosi trawma; fel y gall y rhai sydd wedi profi ‘therapi’ o’r fath dystio.
Rydym yn uno ein lleisiau â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill wrth hawlio bod yr arfer o therapi trosi pobl hoyw yn achosi niwed trwy gydol oes i’r rhai sy’n cael eu gorfodi i’w dderbyn ac nid oes iddo le yn y byd modern.
Rydym yn deall y bydd Senedd Cymru hefyd yn ystyried y mater hwn, ac rydym yn annog Senedd Cymru i gyflwyno deddfwriaeth gadarn fydd yn gwahardd therapi trosi yn ei holl ffurfiau gan gynnig gwarchodaeth i bobl LGBTQI+ yng Nghymru rhag yr arfer sarhaus a niweidiol hwn.
Archesgob Cymru, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy
Esgob Llandaf, June Osborne
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Cynorthwyol Bangor, Mary Stallard