Newyddion am Apêl Hydref Cymorth Cristnogol
Cymorth Cristnogol yn galw arnom i fod yn gymdogion da byd-eang wrth iddynt lansio eu hapêl Hydref. Cynan Llwyd, pennaeth gweithredol Cymorth Cristonogol Cymru, yn dweud mwy.
Mewn cymunedau ar draws Cymru yn y misoedd diwethaf, bu un peth yn allweddol trwy gydol pandemig y Coronafirws – cymdogion da, cariadus. Maent wedi siopa, wedi casglu presgripsiwn ac wedi cerdded y cŵn. Maent wedi cerdded yr ail filltir ac, yn allweddol, wedi caru eu cymuned a’i phobl gydag angerdd.
Heb y cariad hwnnw, byddai argyfwng y Covid wedi bod yn llawer mwy anodd ei wynebu.
Mae Cymorth Cristnogol am ddathlu’r cariad cymdogol hwn mewn apêl arbennig dros yr hydref ac rydym am wneud hynny trwy estyn yr un gefnogaeth a roddwyd i gymdogion sy’n agos, i’r rhai sy’n bell.
Galwodd Iesu arnom i garu’n cymdogion fel ein hunain (Marc 12:31) ac mae Apêl yr Hydref yn gyfle i wneud hynny.
Stori Angela
Ffarmwr coffi yn Nicaragua yw Angela. Arferai’r fferm roi incwm da iddi hi a’i theulu. Ond nawr mae’n wynebu argyfwng. Mae’r hinsawdd sy’n newid yn Nicaragua yn golygu bod ei chynaeafau coffi yn gostwng pob blwyddyn.
Golyga gormod o law nad ydi’r ffa coffi’n aeddfedu’n iawn. Gormod o haul a gall y ffa ddioddef heintiau fel chasparria, sy’n achosi i hanner y ffeuen aeddfedu’n rhy fuan. Arferai ffermwyr coffi golli dim ond 5% o’u cnwd. Nawr mae’n 30%.
Eglurodd Angela, ‘Gyda newid hinsawdd, mae’r coffi dioddef sawl math o haint a phla.
‘Mae’r haul wedi llosgi’r ffa coffi, allwn ni mo’u gwerthu ac rydym yn colli mwy pob blwyddyn oherwydd newid hinsawdd.’
Ar yr un pryd, mae prisiau ffa coffi wedi gostwng trwy’r byd. Mae Angela’n bryderus, ‘Bydd yn drychineb llwyr ac yn fethiant inni, oherwydd fel ffermwyr, rydym yn goroesi trwy dyfu cnydau. O ble y daw ein hincwm?’
Cymdogion Angela’n cyd-weithio
Ond mae gobaith. Gyda’ch cefnogaeth, mae cymuned Angela’n dod at ei gilydd fel menter gydweithredol leol i rannu adnoddau a gwybodaeth ac i warchod bywoliaethau ar frys.
‘Rwy’n teimlo’n falch o fod yn rhan o’r fenter gydweithredol a chael y cyfle i rannu syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd,’ meddai Angela.
Caiff y fenter ei chefnogi gan bartner lleol Cymorth Cristnogol, Soppexcca. Maent yn rhoi help i gymuned Angela ddod at ei gilydd gyda nifer o fentrau a phrosiectau, o erddi llysiau ysgol i weithdai rhyw.
Un o’r prif ffyrdd y maent yn helpu’r ffermwyr i warchod eu bywoliaethau yw trwy symud oddi wrth goffi i goco sy’n hinsawdd wydn.
Meddai Angela, ‘Gyda’r prosiect coco, fe dderbyniom ni fenthyciadau a phlanhigion coco. Fe dderbyniais i 700 planhigyn coco. Fe helpodd y technegwyr ni a dweud wrthym be i wneud. Fe gawson ni goed ifanc hefyd i roi cysgod i’n cnydau.’
Bydd planhigion coco Angela’n barod i’w cynaeafu flwyddyn nesaf. Meddai, ‘Yn fy menter gydweithredol mae yna 10 ffarmwr yn tyfu coco, ond rwy’n falch mai fi yw’r unig wraig.
‘Mae’r incwm ddaw o’r cnwd coco yn bwysig iawn. Golyga y gallwn brynu dillad, meddyginiaeth a bwyd. Rwy’n meddwl mai coco fydd yr unig opsiwn yn y dyfodol oherwydd sut mae newid hinsawdd yn effeithio’r coffi.’
Apêl Hydref
Trwy ein partneriaid, rydym wedi gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i gymuned Angela, gan roi’r offer iddynt fynd i’r afael â sefyllfa ddifrifol. Dyma’r gwahaniaeth y gall gymdogion byd eang ei gwneud.
Wnewch chi helpu cymdogion byd eang fel Angela trwy gefnogi’r Apêl Hydref eleni? Ar wefan Cymorth Cristnogol fe gewch chi adnoddau i’ch helpu chi a’ch eglwys i roi, gweithredu a gweddïo dros gymunedau o amgylch y byd.
Mae ein cymdogion yn fyd eang, yn ogystal ag yn lleol, ac fe rydym am eu caru fel yr ydym yn caru ein hunain.