Galw am ‘bellhau’ Eglwys Rwsia
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi apelio heddiw (Ebrill 28) ar Gyngor Eglwysi’r Byd i ymbellhau oddi wrth aelodau a gefnogodd y rhyfel yn Wcráin.
Mewn cynnig argyfwng, galwodd aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys ar Gyngor Eglwysi’r Byd i gymryd “camau gweithredu clir a phriodol” i ymbellhau oddi wrth unrhyw un o’i aelodau, yn cynnwys Eglwys Uniongred Rwsia, a gefnogodd y rhyfel. Galwodd hefyd ar Gyngor Eglwysi’r Byd i sefyll gyda phobl orthrymedig ac i weithio dros heddwch.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod o Gyngor Eglwysi’r Byd a daw’r cynnig cyn cyfarfod o Bwyllgor Canolog y Cyngor ym mis Mehefin.
Wrth gyflwyno’r cynnig dywedodd Gregory Cameron, Esgob Llanelwy, “Rwy’n amau mai ychydig iawn o aelodau’r Eglwys yng Nghymru na chawsant eu harswydo gan y rhyfel ymosodol a ddechreuodd yr Arlywydd Putin o Ffederasiwn Rwsia yn erbyn pobl Wcráin. Bu’n deimladwy iawn gweld y gefnogaeth i Wcráin yn ymgynnull, a’i llu o ffoaduriaid, hyd yn oed yma yng Nghymru – yn cynnwys aelodau’r Eglwys yng Nghymru hefyd, wrth gwrs – a hefyd yr ymateb bron fyd-eang o gefnogaeth yn erbyn y rhyfel.
“Mae Cyngor Eglwysi’r Byd ei hunan wedi codi llais yn erbyn y rhyfel, yn cynnwys cefnogaeth i bennaeth Eglwys Uniongred Rwsia yn Wcráin, a fu’n glir wrth gondemnio’r rhyfel. Yr hyn fu’n siomedig fu ymateb Patriarch Moscow ei hun, sydd wedi ochri gyda’r Arlywydd Putin, ac a ddaeth yn gynyddol uchel ei gloch wrth ddilyn y safbwynt swyddogol.
“Barn yr Eglwys yng Nghymru yw fod y rhyfel yn Wcráin yn rhyfel direswm o ymosodiad ac gofynnwn i Gyngor Eglwysi’r Byd gymryd camau gweithredu priodol. Gofynnwn i Gristnogion ym mhedwar ban byd i sefyll dros heddwch a gweddio dros edifeirwch a chymodi.”
Eiliwyd y cynnig gan Syr Paul Silk a chafodd ei basio’n unfrydol.
Cynnig argyfwng
“Bod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn galw ar Gyngor Eglwysi y Byd i gymryd camau gweithredu clir a phriodol i ymbellhau’r Cyngor o weithredoedd yr eglwysi hynny sydd ymhlith ei aelodau, yn cynnwys Eglwys Uniongred Rwsia, sydd wedi cefnogi’r rhyfel direswm o ymosodiad Ffederasiwn Rwsia yn erbyn Wcráin, a galwn ar bob Cristion i sefyll gyda’r gorthrymedig ac i wneud popeth yn eu pŵer i weithio dros heddwch.”
Cynhaliwyd cyfarfod y Corff Llywodraethol yng Nghasnewydd ar 27-28 Ebrill.