Lansio ymgyrch i daclo effaith "lethol" argyfwng costau byw Cymru
Bydd pobl sy'n dioddef effaith 'lethol’ yr argyfwng costau byw yn cael cymorth gan ymgyrch a lansiwyd heddiw gan yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd yr ymgyrch Bwyd a Thanwydd yn mynd i'r afael ag achosion tlodi bwyd a thanwydd drwy roi pwysau ar y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r costau cynyddol sy’n gorfodi teuluoedd i ddewis rhwng gwres a bwyd.
Gan fod banciau bwyd ledled Cymru yn ei chael yn anodd ateb y gofyn cynyddol am roddion, mae'r ymgyrch yn cynnwys llythyr agored at bob archfarchnad yn galw arnyn nhw i gynyddu eu hystod o eitemau hanfodol sylfaenol ac i roi mwy o eitemau i elusennau dosbarthu bwyd.
Mae'r ymgyrch Bwyd a Thanwydd yn cael ei lansio gyda hyb ymgyrchu ar wefan feicro sy'n cynnwys fideos ymgyrchu, gwaith graffig i’r cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau i eglwysi i'w helpu i gefnogi'r rhai sydd mewn angen yn eu cymuned. Yr Hyb Bwyd a Thanwydd fydd siop un stop yr Eglwys yng Nghymru i unrhyw un a hoffai ymuno â'r ymgyrch.
Mae cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn ystyried y rheidrwydd Beiblaidd a diwinyddol i ymateb i'r argyfwng costau byw yn yr arfaeth yn nes ymlaen eleni. Mae’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys yr Esgob Barry Morgan, cyn Archesgob Cymru, y diwinydd y Canon Trystan Hughes a Steve Chalke MBE, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Elusennol Oasis.
Wrth gyhoeddi lansiad yr ymgyrch Bwyd a Thanwydd, dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, "Mae’n heglwysi yn gweld drostyn nhw eu hunain effaith lethol yr argyfwng costau byw yng nghymunedau Cymru. Wrth i fwy a mwy o bobl ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, llais cyfunol yr Eglwys yng Nghymru sydd yn y lle gorau i eiriol ar eu rhan.
"Mae'n sgandal mai dim ond fel gwasanaeth brys tymor byr y bwriadwyd banciau bwyd ond eu bod nhw erbyn hyn wedi dod yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd i gynifer o bobl. Rwy'n credu ei bod yn warthus, fel y chweched economi fwyaf yn y byd, fod gan y Deyrnas Unedig gynifer o deuluoedd yn byw mewn tlodi a chynifer o bobl yn ei chael yn anodd talu am fwyd a gwres."
Mae'n ddyletswydd arnon ni i fod yn sianel i gariad Duw yn y byd.
Mae argyfwng costau byw Cymru yn cael effaith bryderus ar deuluoedd ledled Cymru. Yn ôl adroddiad Sefydliad Bevan, A snapshot of poverty, rhwng Ionawr a Gorffennaf eleni, torrodd 57 y cant o bobl yn ôl ar wres, trydan a/neu ddŵr, a thorrodd 39 y cant yn ôl ar fwyd i oedolion.[1]
Banciau cynnes yng Nghymru
Y gaeaf yma mae gan bobl fregus le i fynd i gael bwyd a chynhesrwydd diolch i eglwys yn Nhonyrefail sydd wedi sefydlu banc cynnes wythnosol. Mae Eglwys Dewi Sant yn Nhonyrefail yn darparu caffi cynnes wythnosol sy'n cynnig bwyd a diod boeth, Wi-Fi am ddim a chwmni.
Dywedodd Robert Priddle, Warden yr Eglwys: "Fe sylwon ni ar yr ymgyrch Lle Cynnes yn y cyfryngau cymdeithasol a sylweddoli bod hyn yn rhywbeth roedden ni fel eglwys eisiau ei wneud. Mae rhai pobl yn teimlo'n ynysig ac yn unig ac rydyn ni eisiau cynnig bwyd a diod a rhywle lle gall pobl gael croeso a chredu eu bod nhw’n cyfri."
Mae Charmaine Walsh, sy'n gwirfoddoli yn Eglwys Dewi Sant, yn credu bod ei chyfranogiad hi yn y Caffi Cynnes yn ffordd o helpu ei chymuned leol "Achos ein bod ni'n eglwys leol, mae ein ffydd ni’n bwysig mewn bywyd bob dydd, a dyma un ffordd rŷn ni'n ceisio gwasanaethu'r gymuned. Mae'r fenter yma ynghyd â gwaith ein banc bwyd yn ffordd i’n heglwys ni gefnogi anghenion y rhai mwyaf bregus yn ein cymuned."
Mae'r Archesgob yn galw ar bob eglwys i ymuno â'r ymgyrch Bwyd a Thanwydd, "Fel Cristnogion rydyn ni’n cael ein galw i siarad yn erbyn tlodi. Ein cenhadaeth ni yng Nghymru yw byw neges yr efengyl o obaith, cyfiawnder a chariad. Rydyn ni'n eglwys i bawb sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Rydyn ni’n eglwys i'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ddewis rhwng bwyd a gwres.
"Gyda'n gilydd gallwn godi’n llais ac ymgyrchu o blaid newid. Mae'n ddyletswydd arnon ni i fod yn sianel i gariad Duw yn y byd."
I ymuno â'r ymgyrch ewch i https://www.churchinwales.org.uk/cy/news-and-events/campaign-launches-to-tackle-the-devasting-impact-of-wales-cost-of-living-crisis/
[1] A snapshot of poverty in Summer 2022, Sefydliad Bevan, https://www.bevanfoundation.org/resources/a-snapshot-of-poverty-in-summer-2022/
Costau byw
Rwy’n cefnogi’r ymgyrch Bwyd a Thanwydd