Cadeirlan i’w gweld ar un o Stampiau Nadolig y Post Brenhinol
Cyhoeddodd y Post Brenhinol mai darlun gwreiddiol o Fangor fydd i’w weld ar stamp Dosbarth Cyntaf Mawr cyfres Stampiau Arbennig y Nadolig 2024.
Bydd rhai o’r nifer o gadeirlannau mawreddog yn y Deyrnas Unedig i’w gweld ar stampiau Nadolig y Post Brenhinol ar gyfer 2024 – y pedair yn y gyfres fydd: Caeredin; Armagh; Lerpwl; a San Steffan.
Cafodd y stampiau eu darlunio gan yr artist Prydeinig o Penzance, Judy Hoel, y mae eu paentiadau poblogaidd wedi cael eu gwerthu ledled y byd dros y 50 mlynedd diwethaf.
Meddai Esgob Enlli, y Gwir Barchedig David Morris, yn y llun, “Rydym yn falch iawn bod y Post Brenhinol wedi dewis Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar gyfer casgliad stampiau’r Nadolig. Mae wir yn ddyluniad hyfryd ac rwy’n edrych ymlaen at gael fy ngherdyn Nadolig cyntaf gyda stamp Cadeirlan Bangor y Post Brenhinol arno.
“Mae’n arwyddocaol iawn i ni wrth i ni baratoi i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu cymuned ym Mangor a sefydlu’r Gadeirlan a’r Ddinas a welwn heddiw. Rydym yn gobeithio y bydd y stamp yn annog pobl i ymweld â’r Gadeirlan yn ystod ein dathliadau Nadolig.”
Meddai David Gold, Cyfarwyddwr Materion Allanol a Pholisi, y Post Brenhinol, “Rydym yn falch iawn bod Cadeirlan Bangor i’w gweld ar ein stamp Dosbarth Cyntaf Mawr y Nadolig hwn. Mae cadeirlannau yn rhan bwysig iawn o’n treftadaeth ddiwylliannol ac maent yn chwarae rôl bwysig mewn cymunedau lleol. Maent hefyd yn cynnig lle i fyfyrio’n dawel a dianc rhag heriau bywyd bob dydd, a all fod yn bwysig iawn adeg y Nadolig.”
Mae’r Nadolig yn amser o ddathlu yng nghanol tywyllwch y gaeaf ym mhob un o gadeirlannau’r Deyrnas Unedig. Gyda goleuadau cannwyll, addurniadau Nadoligaidd, pensaernïaeth fawreddog, celf a thrysorau ysbrydoledig a cherddoriaeth a litwrgi aruchel, mae cadeirlannau yn lleoedd rhyfeddol a chroesawgar i ymweld â nhw adeg y Nadolig.
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Yn 525 OC, sefydlodd Sant Deiniol gymuned genhadol wedi’i hamgáu gan ffens o goed cyll, mewn ardal o dir isel ar y Fenai rhwng mynyddoedd Eryri a glannau Ynys Môn. Deiniol oedd un o’r seintiau Celtaidd o’r 6ed ganrif a sicrhaodd fod presenoldeb Cristnogol yn parhau ar hyd glannau gorllewin Cymru ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain. Yn y blynyddoedd wedi hynny, cafodd y mynachdy ei ysbeilio sawl gwaith, a does dim o’r adeilad gwreiddiol wedi goroesi.
Mae’r gadeirlan bresennol yn un Normanaidd. Fe’i hadeiladwyd gan frenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynon, a oedd yn feistr ar adeiladu eglwysi ac a gladdwyd yno yn 1137. Cafodd y gadeirlan ei hysbeilio droeon gan y Saeson oherwydd ei chysylltiad â thywysogion brodorol Cymru, a gwnaethpwyd llawer o ddifrod iddi yn 1211 gan fyddin y Brenin Ieuan. Erbyn y 19eg ganrif, roedd mewn cyflwr gwael a chafodd gwaith ailadeiladu ac atgyweirio mawr ei wneud gan George Gilbert Scott.
Mileniwm a hanner yn ddiweddarach, mae’r gadeirlan yn parhau i fod wedi’i gwreiddio yn y gorffennol, ond mae hefyd yn ymatebol i’r anghenion a welir heddiw.
Ar hyn o bryd, Bangor yw cadeirlan daleithiol yr Eglwys yng Nghymru, gan mai Esgob Bangor yw Archesgob Cymru. Caiff Dydd Nadolig ei ddathlu yma gyda cherddoriaeth a litwrgi yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’r stampiau, ac amrywiaeth o gynhyrchion y gellir eu casglu, ar gael i’w prynu o heddiw (5 Tachwedd) ymlaen yn www.royalmail.com/christmas2024, dros y ffôn ar 03457 641 641 ac mewn 7,000 o Swyddfeydd Post ledled y Deyrnas Unedig. Mae Pecyn Cyflwyno sy’n cynnwys y pum stamp ar gael i’w brynu am £10.35.