Gŵyl Gadeirlan yn agor y llifddorau gyda dathliad ar thema'r afon
Bydd gŵyl gelfyddydol a chrefyddol fawr ym Mangor yn tynnu sylw at yr heriau amgylcheddol sy'n wynebu dyfrffyrdd Cymru, cyn Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru Archesgob Cymru ym mis Tachwedd.
Bydd Gŵyl Tarannon, a gynhelir rhwng 24 a 28 Hydref yn Cadeirlan Deiniol Sant, yn rhoi llwyfan I gerddorion rhyngwladol, arbenigwyr amgylcheddol ac artistiaid lleol mewn rhaglen pum niwrnod wedi'i seilio ar y thema "y Mae Afon."
Mae uchafbwyntiau'r ŵyl yn cynnwys perfformiad golau canwyll o’r Pedwar Tymor gan Vivaldi gyda’r unawdydd rhyngwladol Sebastian Wyss, ochr yn ochr â pherfformiad cyntaf byd o gyfansoddiad newydd o'r enw "Afon" gan Daniel Pett, Clerc Lleyg y Gadeirlan.
Mae materion amgylcheddol yn ganolbwynt i'r dathliad hwn gyda'r academydd a'r actifydd nodedig Robin Grove-White, Canon Amgylcheddwr y Gadeirlan yn agor y dathliadau, ceir hefyd darlith gan yr Athro Christian Dunn o Brifysgol Bangor ar yr argyfwng afonydd yng Nghymru a sgwrs gyda Maer Bangor Gareth Parry am faterion amgylcheddol sy'n wynebu'r ddinas.
Rydym yn gobeithio y bydd yr ŵyl hon yn ysbrydoli sgyrsiau am ddiogelu ein dyfrffyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae digwyddiadau cymunedol yn cynnwys gŵyl fwyd a diod sy'n dathlu cynnyrch lleol, cystadleuthau ffotograffiaeth a barddoniaeth, pererindod ar hyd hen afon Tarannon a oedd unwaith yn llifo trwy ganol Bangor, a diwrnod o hwyl i'r teulu fydd yn rhad ac am ddim ac yn cau'r ŵyl ddydd Llun 28 Hydref.
Gall ymwelwyr archwilio arddangosfa am ddim yn y Gadeirlan drwy gydol yr ŵyl rhwng 9am a 9pm, gyda lluniaeth ar gael yn ystod y dydd a bar yn agor gyda'r nos.
"Mae Gŵyl Tarannon yn dathlu ein treftadaeth ysbrydol a diwylliannol wrth fynd i'r afael â heriau amgylcheddol brys," meddai'r Parchedig Josie Godfrey, un o drefnwyr yr ŵyl.
"Gyda rhaglen sy'n cynnwys addoliad, pererindod a cherddoriaeth, rydym yn gobeithio y bydd yr ŵyl hon yn ysbrydoli sgyrsiau am ddiogelu ein dyfrffyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Cynhelir Gŵyl Tarannon rhwng 24 a 28 Hydref.
- Dysgwch fwy am Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru yma
Gŵyl Tarannon
Darganfod mwy