Cadeirlan yn cynnal gwasanaeth coffa cenedlaethol ar gyfer pobl LHDT+ a gafodd eu hallgau
Caiff pobl a ddioddefodd gael eu hallgau o gymunedau Cristnogol oherwydd eu rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd eu coffau mewn gwasanaeth cenedlaethol y mis hwn.
Bydd y gwasanaeth, yng Nghadeirlan Llandaf, yn cofio’r rhoi a gollodd eu bywydau oherwydd hunanladdiad, neu a gafodd eu niweidio oherwydd iddynt gael eu allgau, a bydd hefyd yn edrych ymlaen at gymodi.
Trefnir y gwasanaeth gan OneBodyOneFaith, rhwydwaith aelodau LGBT+ Cristnogol hynaf y Deyrnas Unedig, mewn partneriaeth gyda The Gathering, eglwys LHDT+ yng Nghaerdydd, a gyda chefnogaeth esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Gwahoddir gwesteion i osod blodau gwyn a chynnal munud o dawelwch cyn cymryd rhan mewn gweithred o gymodi, lle caiff blodau porffor eu gosod fel arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd lyfr atgofion lle gellir ysgrifennu enwau anwyliaid. Bydd gweddi a chefnogaeth fugeiliol ar gael i’r rhai sydd angen hynny.
Fy ngobaith cadarn yw y bydd y gwasanaeth hwn yn gyfeirnod ar daith bwysig o iachau a thrawsnewid
Dywedodd Mary Stallard, Esgob Llandaf, fydd yn agor y gwasanaeth gyda chroeso a gweddi, “Rwyf wrth fy modd fod y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llandaf. Rydym yn gwerthfawrogi ein galwad i fod yn eglwys gynhwysol, ac mae’r gwaith hwn yn tanlinellu hyn. Fy ngobaith cadarn yw y bydd y gwasanaeth hwn yn gyfeirnod ar daith bwysig o iachau a thrawsnewid, ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan a hefyd ar gyfer ein heglwys a chymunedau ffydd yn ehangach.”
Dywedodd Esgob Llanelwy, a fydd yn rhoi’r bregeth goffa, “Fel mae’r Eglwys yn ailasesu ei hagwedd tuag at bobl LHDT+, mae’n rhaid i ni gydnabod nid yn unig y gwahaniaethu, ond hefyd y niwed gwirioneddol a achoswyd i unigolion. Bwriad y gwasanaeth hwn yw cyfrannu rhywbeth tuag at gydnabod y niwed hwnnw ac i gymryd cam yng nghyfeiriad iachau.”
Hwn fydd yr ail wasanaeth coffa cenedlaethol a drefnwyd gan OneBodyOneFaith. Cynhaliwyd y cyntaf yn Llundain ym mis Ebrill y llynedd.
Dywedodd Luke Dowding, Prif Swyddog Gweithredol OneBodyOneFaith, “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn gyfle cadarn i ddweud y gwir am y niwed y mae pobl LHDT+ yn parhau i’w brofi, ond hefyd am ddyfodol lle nad yw’r eglwys Gristnogol yn rhan o hynny mwyach. Rydym yn ddiolchgar i draddodiadau fel yr Eglwys yng Nghymru sy’n dangos arweinyddiaeth glir ar hyn.”
Mae croeso i bawb fynychu’r gwasanaeth. Fe’i cynhelir yng Nghadeirlan Llandaf ddydd Sul, 26 Mai am 5.30pm.
- I drefnu eich lle a chadw eich sedd, ewch i EventBrite