Cadeirlan i agor fel Canolfan Frechu
Mae Esgob Bangor, Andy John, yn falch o gyhoeddi y bydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor o ddydd Mawrth 6 Gorffennaf yn gartref i dîm brechu Covid-19 y GIG.
Mae Cadeirlan Deiniol Sant wedi bod yng nghanol Bangor ers bron i 1,500 o flynyddoedd, ac wedi bod yn le o weddi, harddwch, sancteiddrwydd a lletygarwch, ac mae'r lletygarwch hwn bellach yn cael ei estyn i bawb, o bob rhan o'n cymuned, a fydd yn dod i'r Gadeirlan i gael eu brechu.
Wrth groesawu pawb i’r Gadeirlan, meddai’r Esgob, “Mae’n hollbwysig i ni gael ein brechu. Ac fe fydd pawb, o bob rhan o'n cymuned ni, yn cael eu croesawu trwy'r drysau fel rhan o’r ymdrech. Mae Cadeirlan Deiniol Sant yma i bob un ohnom ni.”
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen frechu ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/