Cadeirlannau yn goleuo at Sul yr Adfent
Bydd holl gadeirlannau Cymru a’r eglwysi mwyaf yn cael eu trawsnewid yn llusernau ar Sul yr Adfent.
Bydd ein hadeiladau mwyaf dan lifoleuadau neu wedi eu goleuo o’r tu mewn ar 29 Tachwedd i gynrychioli goleuni Crist a chariad yn ein cymunedau.
Yn draddodiadol mae eglwysi yn nodi Sul yr Adfent gyda gwasanaethau sy’n cychwyn yng ngolau cannwyll ac yn dod i ben â’r eglwys wedi ei goleuo yn llawn, i gynrychioli dyfodiad goleuni Crist i dywyllwch y byd.
Gan y bydd y gwasanaethau yn gyfyngedig eleni, gwahoddir yr holl eglwysi i ymuno i oleuo wrth iddi dywyllu a disgleirio ar Sul yr Adfent. Gobeithir y byddant yn rhoi lluniau o’u goleuadau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TywyllwchIOleuni
Meddai Esgob Bangor, Andy John, “Mae goleuo ein hadeiladau yn symbol grymus o bresenoldeb yr Eglwys yn y gymuned. Mae’n taflu llifolau ar ein ffydd ac yn ein hatgoffa i gyd y gall cariad Duw oresgyn y tywyllwch yn ein bywydau. Rwy’n annog ein holl eglwysi i ymuno â’n cadeirlannau a dod yn llusernau yn eu trefi a phentrefi.”
Mae rhestr islaw o’n chwe chadeirlan ac eglwysi mwy, gyda dolenni i’w gwefannau lle mae manylion am eu gwasanaethau Nadolig a sut i fynychu.