Dathlwch Dewi Sant 900
Eleni mae Cadeirlan Tyddewi yn nodi pen-blwydd arbennig iawn. Aeth 900 mlynedd heibio ers iddi gael braint gan y Pab fod dwy bererindod i’r Gadeirlan yn gyfwerth ag un i Rufain. Cafodd Dewi Sant ei gydnabod fel “sant rhyngwladol”.
Fel rhan o Tyddewi 900, caiff cyfres o raglenni teledu a radio ei darlledu rhwng nawr a’r Pasg, yn rhoi sylw i’r Gadeirlan a hefyd leoedd eraill arwyddocaol i Dewi Sant. Mae’r 27 rhaglen yn cynnwys gweddïau a myfyrdodau gan Ddeon Tyddewi, Dr Sarah Rowland Jones , o Jerwsalem a phererindod gyda Katherine Jenkins, cyflwynydd Songs of Praise.
Dywedodd y Deon Sarah, “Mae 900 mlynedd o gydnabyddiaeth ryngwladol – o Dewi Sant ei hun, ac o werth pererindod i’w gartref – yn daith i’w dathlu ynddi ei hun. Mae’r rhaglenni yn ein galluogi i rannu stori wych Dewi Sant yn fwy eang a gwahodd pobl i deithio gyda ni ar ein pererindod barhaus o ffydd. Bu’n hyfryd eu recordio a gobeithiaf y bydd ein myfyrdodau, gweddïau a chanmoliaeth yn ysbrydoli pobl i ddilyn Dewi yn ei gyfarwyddyd i ‘fod yn llawen, cadw’r ffydd a gwneud y pethau bychain’”.
Mae rhestr lawn o’r raglen yn dilyn.
Teledu
BBC One SONGS OF PRAISE
Dydd Sul 26 Chwefror 13.15
Pererindodau Dewi Sant
Mae Katherine Jenkins yn ymuno â phererinion yn dilyn y llwybr hynafol i Gadeirlan Tyddewi. Bydd Katherine yn cwrdd â Janet Ingram, a fu’n arwain pererindodau ar hyd arfordir Cymru am fwy na degawd, ac yn canfod sut mae’r esgobaeth yn dathlu 900 mlynedd ers i’r llwybr gael ei gydnabod yn swyddogol gan y Pab Callixtus II yn 1123. Mae’r grŵp yn oedi mewn lleoedd arwyddocaol i nawdd sant Cymru, yn cynnwys y ffynnon lle cafodd Dewi ei fedyddio fel baban. Mae’n cynnwys emynau o Gadeirlan Tyddewi.
www.bbc.co.uk/programmes/m001jp1c
ITV CYMRU/WALES - COAST AND COUNTRY
Dydd Gwener 10 Mawrth, 19.30
Bydd y cyflwynydd Ruth Dodsworth yn ymweld â Chadeirlan Tyddewi, ei llyfrgell hanesyddol a’i gardd gymunedol newydd. Mae’n cwrdd â’r Deon, y llyfrgellydd Mari James a’r swyddog pererindodau Janet Ingram, yn ogystal â gwirfoddolwyr yng ngardd Erw Dewi.
Radio
PRAYER FOR THE DAY: BBC Radio 4, 5.43am
St David 900: A Saint for Today
Ymunwch â ni yn y myfyrdod a gweddi dyddiol.
25 Chwefror – o Jerwsalem gyda Dr Sarah Rowland Jones, Deon Cadeirlan Tyddewi
27 Chwefror – o Lydaw gyda’r Canon Edwin Counsell, sy’n arwain Ardal Weinidogaeth Arfordir Treftadaeth Morgannwg ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru
28 Chwefror – gyda’r Parch Delyth Liddell, Caplan Cydlynu ym Mhrifysgol Caerdydd
1 Mawrth – o Rufain gyda’r Tad Matthew Roche-Saunders, Offeiriad Catholig yn Eglwys Merthyron Cymru yn Aberystwyth
2 Mawrth – o Llanddewi Brefi gyda Jonathan Thomas, Bugail Eglwys Cornerstone yn y Fenni
3 Mawrth – o Dyddewi gyda Dr Sarah Rowland Jones, Deon Cadeirlan Tyddewi
https://www.bbc.co.uk/programmes/m001jchm
SUNDAY WORSHIP: Radio 4, 8.10am
26 Chwefror – Cyflwynir y rhaglen Sunday Worship o Jerwsalem gan Ddeon Tyddewi, Sarah Rowland-Jones, gyda myfyrdodau gan bererinion cyfoes o Gymru yn Jerwsalem, Rhufain a Llydaw.
https://www.bbc.co.uk/programmes/b006qnds
DAILY SERVICE: BBC Radio 4 Tonfedd Hir
3 Ebrill, 9.45am – arweinir o Jerwsalem gan Ddeon Tyddewi
CHORAL EVENSONG: Radio 3
Ymunwch â’r Hwyrol Ddewi gan Gadeirlan Dewi Sant ar Ddydd Gŵyl Dewi.
1 Mawrth, 4pm, ail-ddarllediad dydd Sul 5 Mawrth am 3pm
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys perfformiad cyntaf ymatebion Alan Llewelyn Thomas yn ogystal â ‘Give us the wings of faith’ gan Oliver Tarney, a gomisiynwyd ar gyfer Gŵyl Cadeirlan Tyddewi yn 2022.
https://www.bbc.co.uk/programmes/m001jcv7
CELEBRATION: Radio Wales
Ar 26 Chwefror bydd Deon Tyddewi, Dr Sarah Rowland Jones, yn arwain gwasanaeth o addoliad am Dewi Sant, a sut mae cael diben yn rheswm dros ‘fod yn llawen’ fel y dysgodd ef. Mae rhaglenni eraill Celebration ar y chwe dydd Sul dilynol hyd at y Pasg yn ystyried rhesymau eraill y gallwn eu dysgu gan Dewi am fod yn llawen. Maent yn dod i ben gyda gwasanaeth Sul y Pasg dan arweiniad Archesgob Cymru, Andrew John, o Gadeirlan Deiniol Sant, Bangor.
Gallwch glywed y rhaglen am 7.30am neu 19.28.
www.bbc.co.uk/programmes/b0079fvx/broadcasts/upcoming
ALL THINGS CONSIDERED: Radio Wales
Trafodaeth a myfyrdod ar Dewi Sant a phererindod, bob dydd Sul hyd at y Pasg, yn dechrau ar 26 Chwefror, am 9am, a ailadroddir y dydd Mawrth dilynol 5.30am.
https://www.bbc.co.uk/programmes/m001jhlf
WEEKEND WORD: Radio Wales
7 Ebrill 7.25am – myfyrdod Dydd Gwener y Groglith gan Ddeon Tyddewi.
Dewi Sant, o’r greirfa sydd newydd ei hadfer yng Nghadeirlan Tyddewi