‘Y Cyfrifiad yn ein hatgoffa am ein her enfawr’
Dywedodd Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, Gregory Cameron, fod canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar grefydd yn “her enfawr i’r Eglwys.
Dywedodd yr Esgob Gregory Cameron, sydd hefyd yn Esgob Llanelwy, “Rydym wedi dod yn gymdeithas lle gallwn fod yn fwy onest am ffydd ac mae disgwyliadau cymdeithas, os unrhyw beth, yn seciwlar yn hytrach na chrefyddol, felly mae arddel ffydd yn golygu sefyll allan yn hytrach na thoddi i mewn.
“Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnig unrhyw beth annisgwyl ond maent yn ein hatgoffa am yr her enfawr i’r eglwys fedru dangos i gymdeithas pam y credwn fod ffydd yn trawsnewid bywyd.”