Dathliadau canmlwyddiant Eglwys gyntaf yr Eglwys yng Nghymru

Mae'r eglwys gyntaf i'w chysegru ar ôl datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn 1920 newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.
Agorwyd Sant Martin o Tours yn Llai, ger Wrecsam, yn 1925 wrth i'r pentref gael ei ddatblygu. Fe'i hadeiladwyd i wasanaethu glowyr yng Nglofa newydd Llay Main a'u teuluoedd, ac fe'i disgrifiwyd mewn adroddiad papur newydd ar y pryd fel "tystiolaeth galonogol o ddewrder a bywiogrwydd yr Eglwys yng Nghymru".
Bu Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, yn arwain gwasanaeth arbennig o ddathlu ddydd Sul 23 Chwefror. Dywedodd: "Rwyf bob amser yn mwynhau dathlu pen-blwyddi carreg filltir ein heglwysi. Mae'n cynrychioli pennod enfawr yn ymroddiad llawer o ddynion a menywod cyffredin sy'n creu lle sanctaidd y mae croeso i bawb."