Cronfa’r Canmlwyddiant yn cyrraedd hanner ei tharged
Mae cronfa a lansiwyd gan yr Eglwys yng Nghymru i nodi ei Chan-mlwyddiant yn 2020 wedi cyrraedd hanner ei tharged mewn ychydig dros ddwy flynedd.
Lansiwyd Cronfa’r Canmlwyddiant yn 2019 gyda’r nod o godi £100,000 dros bum mlynedd ar gyfer dau brosiect elusennol – un gartref ac un dramor. Ar ôl codi bron £50,000, caiff y Gronfa yn awr ei dirwyn i ben oherwydd effaith niweidiol pandemig Covid ar godi arian gan eglwysi.
Derbyniodd y prosiectau, un yn cael ei rhedeg gan elusen tai Gristnogol Housing Justice Cymru ac un gan Cymorth Cristnogol bron £25,000 yr un o’r Gronfa. Nod gwreiddiol prosiect Housing Justice Cymru oedd cefnogi llochesi nos ar gyfer pobl ddigartref. Fodd bynnag, daeth y rhain i ben oherwydd y pandemig gyda’r ffocws yn troi yn lle hynny i sicrhau tenantiaethau ar gyfer pobl fregus. Mae’r gwaith gan bartner Cymorth Cristnogol yn Ne Sudan ac a gefnogwyd gan y Gronfa hefyd wedi newid yn sylweddol.
Diolchodd Andrew John, Archesgob Cymru, i bawb a gyfrannodd mor hael at y Gronfa.
Dywedodd, “Rydym yn falch tu hwnt i fod wedi codi bron hanner y swm a addawyd ac yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd. Rhoddwyd swm sylweddol o arian i’r ddwy elusen, gan fod o fudd uniongyrchol i’r rhai mewn angen gartref ac yn Ne Sudan. Mae hynny’n gamp enfawr mewn cyfnod mor fyr.
“Yn anffodus, mae’r pandemig wedi gadael ei ôl ar bob elusen gan fod cyfyngiadau cymdeithasol a chau eglwysi wedi’i gwneud yn anodd iawn i godi arian. Er fod y prosiectau gwreiddiol a noddwyd gan y Gronfa wedi newid, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Housing Justice Cymru a Cymorth Cristnogol i’w cefnogi yn eu gwaith pwysig.”
Dywedodd Bonnie Williams, cyfarwyddwr Housing Justice Cymru, “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfraniadau ariannol a gawsom hyd yma drwy gronfa Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru. Maent wedi ein galluogi i helpu pobl sy’n profi digartrefedd i ganfod a chadw cartrefi ledled Cymru. Rydym yn llwyr ddeall yr effaith a gafodd y pandemig ar yr Eglwys ac ar godi arian a rydym yn parhau’n ddiolchgar am y swm sylweddol a gawsom. Wrth i ni symud ymlaen, edrychwn ymlaen at ganfod ffyrdd newydd o gydweithio i gefnogi pobl fregus yn ein cymunedau ledled Cymru.”
Dywedodd Mari McNeill, pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, “Mae’r ffaith y llwyddodd y Gronfa i godi hanner ei tharged er gwaethaf cynifer o heriau dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dyst o angerdd ac ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru tuag at y bobl fwyaf agored i niwed yn y byd. Mae pandemig Covid wedi taro gwledydd fel De Sudan hefyd, lle mae gwrthdaro parhaus a’r argyfwng hinsawdd wedi gwaethygu problemau o dlodi dybryd. Yn y sefyllfa heriol hon, mae Cronfa’r Canmlwyddiant wedi cefnogi gwaith meithrin heddwch hanfodol ar lawr gwlad gan gyrraedd dynion, menywod, pobl ifanc a chlerigwyr mewn sawl talaith. Er fod yr apêl hon yn dod i ben, rydym yn mynegi ein diolchiadau mwyaf i bawb yn yr Eglwys yng Nghymru am eu hymrwymiad di-ildio i waith Cymorth Cristnogol, ac edrychwn ymlaen at barhau’r gwaith mewn partneriaeth agos wrth i ni sefyll gyda’n gilydd dros urddas, cydraddoldeb a chyfiawnder mewn byd sydd wedi ei andwyo gan dlodi.”