Diolch i weddwon i nodi pen-blwydd elusen yn 90 oed
Diolchir i holl weddwon clerigwyr yr Eglwys yng Nghymru am eu cyfraniad i fywyd yr eglwys i nodi pen-blwydd elusen yn 90 oed heddiw.
Bydd pob un ohonynt yn derbyn cerdyn yn diolch iddynt am eu gweinidogaeth eu hunain a’u diweddar ŵyr gan ymddiriedolwyr y Gymdeithas Gweddwon, Plant Amddifad a Dibynyddion (WODS).
Sefydlodd yr Eglwys yng Nghymru yr elusen ar 1 Gorffennaf 1931 i roi cymorth ar gyfer teuluoedd clerigwyr a fu farw oedd yn wynebu caledi ariannol. Mae’n talu tua £100k mewn grantiau bob blwyddyn a hefyd yn trefnu cefnogaeth fugeiliol ym mhob un o chwech esgobaeth yr Eglwys.
I nodi ei phen-blwydd, mae elusen WODS hefyd wedi ymrwymo £500 i bob esgobaeth i dalu am ddigwyddiad cymdeithasol, unwaith y bydd yn ddiogel cynnal hynny.
Dywedodd Peggy Jackson, Archddiacon Margam, sy’n is-gadeirydd WODS, “Mae WODS yn un o’r meysydd gwaith y mae lleiaf yn gwybod amdano ond mwyaf gwerthfawr o fewn yr Eglwys yng Nghymru – gan anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad clerigwyr y gorffennol, drwy gynnig gofal neilltuol i’r rhai a gefnogodd eu gweinidogaeth dros y blynyddoedd, yn aml ar gost sylweddol. Mae’n werth chweil iawn i’r ymddiriedolwyr dderbyn, fel y gwnawn yn aml, lythyrau diolch a gwerthfawrogiad gan weddwon sy’n derbyn ein cefnogaeth, a gwybod eu bod yn parhau i ymwneud gyda bywyd yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r grantiau a gynigiwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i sefyllfa ariannol y sawl sy’n ei dderbyn ac yn gwneud eu bywydau ychydig yn haws.
“Rydym yn neilltuol o falch i nodi’r pen-blwydd mawr hwn drwy ddiolch yn fawr iddynt.”
- Os hoffech gyfrannu at WODS neu geisio cymorth, cysylltwch â Louise Davies: louisedavies@churchinwales.org.uk neu 02920 348228