Pennaeth Cymorth Cristnogol yn paratoi ar gyfer her feicio
Wrth i Gymru ddathlu Great Big Green Week 2023 (Mehefin 10-18), mae’r Parch Andrew Sully wedi cyhoeddi ei fod e, ynghyd â thri chyfaill, am fentro ar hyd Lôn Las Cymru er budd prosiectau sy’n mynd i’r afael â materion fel anghyfiawnder hinsawdd.
Mae’r asiantaeth gymorth ryngwladol, Cymorth Cristnogol, yn gweithio gyda phartneriaid lleol mewn rhai o’r cymunedau tlotaf yn y byd lle mae pobl sydd heb wneud fawr ddim i gyfrannu tuag at newid hinsawdd yn talu’r pris caletaf.
Mae stormydd difrifol a sychderau dwys yn dinistrio cartrefi, difetha cnydau a da byw, gan adael miliynau’n ei chael hi’n anodd goroesi.
Mae Andrew yn feiciwr brwd ac fe fydd yn seiclo o Gaergybi i Gaerdydd, rhwng 1-4 Gorffennaf, gyda’i gyfeillion John ac Ann Musgrave a Rhun ap Roberts.
Dywedodd y gŵr 55 mlwydd oed, sy’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, Mary, sy’n Esgob Llandâf: “Rwy’n teimlo’n gryf ynghylch anghyfiawnder hinsawdd ac hefyd yn awyddus i weld may o bobl yn mynd allan i fwynhau natur trwy gerdded neu seiclo.
“Fe deimlais i bod yr her hon yn ffordd dda a godi arian ac ymwybyddiaeth o bob math o brosiectau cynaliadwy.”
Mae Andrew’n lansio’r digwyddiad codi arian gyda dau wasanaeth cymun – yn Llangollen a Llandudno ar Fehefin 29 a 30 – i gydredeg â dathlu 30ain ers ei ordeinio’n ficer.
Bydd y pedwar beiciwr wedyn yn gadael ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 1, gan oedi mewn bore goffi ym Mangor, cyn anelu am Borthmadog a Portmeirion.
Bydd y daith wedyn yn mynd tua Harlech, Y Bermo, Aberdyfi, a Machynlleth. Bydd y criw’n aros dros nos yn Llanbrynmair ac yna seiclo ‘mlaen am Lanidloes, Llanfair ym Muallt ac Aberhonddu, dilyn Taith Taf i Ferthyr Tudful a Phontypridd cyn diweddu’r daith gyda derbyniad yn Llys Esgob, cartref Andrew yn Llandaf.
Yno, bydd Esgob Mary a gwahoddedigion yn croesawu beicwyr Lôn Las Cymru adref a chymryd y cyfle hefyd i ddiolch i wirfoddolwyr Cymorth Cristnogol am eu hymdrechion yn ystod y flwyddyn.
Mae Andrew yn feiciwr profiadol, wedi seiclo i drafodaethau hinsawdd COP15 yn København yn 2009, yn ogystal ag o Lundain i Baris, Whitehaven i Whitby a Land’s End i John O’Groats.
Ychwanegodd: “2006 oedd y tro cyntaf imi seiclo o ddifrif ac roedd hynny gyda Cymorth Cristnogol. Fel mae’n digwydd, fe dorrais i bont fy ysgwydd ar y diwrnod olaf wrth gwympo oddi ar fy meic.
“Rwy’n gobeithio yr aiff y daith hon yn esmwyth ond bod rhai rhannau heriol iddi. Dwi wedi bod yn ymarfer pob wythnos, felly’n teimlo’n barod ac yn edrych ymlaen. Y gobaith ydy cwblhau rhwy 50-60 milltir y dydd ac fe fydd hi’n gyffrous seiclo pob math o dir, gan gynnwys traciau arfordirol, llwybrau camlesi a mynyddoedd.
“Bydd llawer o’r daith yn dilyn llwybrau seiclo Sustrans, sydd wedi’u cysgodi o’r priffyrdd. Dydy rhywun ddim yn sylweddoli faitn o waith sydd wedi’i wneud ar y llwybrau hyn i annog pobl i fynd allan ar eu beics.
“Rwy’n gyffrous am yr her, gan obeithio y daw llawer o bobl allan i ddangos eu cefnogaeth.”
- I ganfod mwy ac i gyfrannu at y dudalen Justgiving, cliciwch ar: Andrew Sully is fundraising for Christian Aid (justgiving.com).
- I ganfod mwy am Ymgyrch Colled a Difrod Cymorth Cristnogol, ewch i’r wefan: Loss and Damage - Christian Aid