Apêl Nadolig i fynd i'r afael â thlodi hylendid yn cael ei lansio yng Nghymru.
Mae apêl Nadolig i helpu pobl i oresgyn tlodi hylendid yn cael ei lansio yng Nghymru'r wythnos hon.
Bydd Anrheg ar gyfer y Nadolig, dan arweiniad yr Eglwys yng Nghymru, yn mynd i’r afael â’r argyfwng cudd o dlodi hylendid sy’n effeithio ar 3.1 miliwn o bobl ledled y DU. Mae Archesgob Cymru yn gofyn i eglwysi roi o leiaf 10 bocs o bethau ymolchi a nwyddau hylendid i fanciau bwyd lleol a phartneriaid elusennol.
Roedd canfyddiadau o adroddiad The Hygiene Bank yn 2022 yn dangos bod 61% o bobl sy’n dioddef tlodi hylendid wedi dweud ei fod yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Amlygodd yr adroddiad fod arwahanrwydd cymdeithasol yn ffactor arwyddocaol o dlodi hylendid gyda 49% yn dweud eu bod yn osgoi cymdeithasu gyda ffrindiau oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd a chwithigrwydd.
Dangosodd yr adroddiad hefyd fod teuluoedd yn teimlo effaith tlodi hylendid gyda 62% o rieni sy'n dioddef tlodi hylendid yn dweud bod yn rhaid iddynt ddewis rhwng cynhyrchion hylendid ar gyfer eu hunain neu eu plant.
Anrheg ar gyfer y Nadolig yw menter ddiweddaraf yr Eglwys yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ar ôl lansio’r ymgyrch Bwyd a Thanwydd i fynd i’r afael ag achos tlodi bwyd ac ynni yn ddiweddar.
Dywed Archesgob Cymru, “Mae’n bwysig ein bod ni fel Cristnogion yn ymarferwyr haelioni yn ogystal ag eiriolwyr dros gyfiawnder cymdeithasol, a dyna pam rydyn ni’n lansio Anrheg ar gyfer y Nadolig.
“Roedd y cyfnod clo yn ddigon anodd ar ein lles meddyliol felly mae clywed bod plant a theuluoedd yn colli allan ar weithgareddau cymdeithasol oherwydd na allant fforddio pethau sylfaenol fel sebon, gel cawod a phast dannedd yn syfrdanol. Ni allwn eistedd yn ôl a gwneud dim.
“Ein heglwysi yw calon pob cymuned, ac mae gennym ni rwydwaith enfawr o wirfoddolwyr sy’n teimlo eu bod yn cael eu galw i rannu cariad a thosturi Duw yn y byd. Pa ffordd well na chydweithio'r Nadolig hwn i newid bywydau pobl ac eirioli ar eu rhan.
“Fy ngobaith yw bod pob un o’n heglwysi’n cyfrannu at yr ymgyrch hon fel y gallwn ddod â thlodi hylendid i ben yng Nghymru.”
Mae Eglwys Santes Gwenffrewi Penrhiwceibr wedi ymuno â’r ymgyrch ac yn casglu nwyddau hylendid i’w rhoi i’r ysgol gynradd leol. Mae Eglwys Santes Gwenffrewi hefyd wedi partneru â Hey Girls i ddarparu cynhyrchion mislif i unrhyw un sydd eu hangen.
Meddai’r Parch Stuart Ghezzi, “Mae’n dorcalonnus meddwl bod plant yn teimlo gormod o gywilydd i gymdeithasu oherwydd ni all teuluoedd fforddio pethau sylfaenol fel sebon, past dannedd a siampŵ. Teimlwn yn gryf fel eglwys y dylai plant gael y dechrau gorau mewn bywyd a dyna pam rydym wedi ymuno â'r ymgyrch. Dyma ein ffordd ni o ddangos cariad Duw yn y byd.”
Sut i gymryd rhan
Mae gofyn i eglwysi am focsys ar gyfer Anrheg ar gyfer y Nadolig yn eu hadeiladau a gwahodd pobl i gyfrannu nwyddau hylendid. Gall eglwysi eu rhoi i fanciau bwyd lleol, mannau gollwng Banc Hylendid neu elusennau lleol.