'Mae stori'r Nadolig yn dangos llawenydd cariad costus'
Mae stori’r Nadolig yn cynnig gobaith i’r rhai sy’n dioddef yn y byd heddiw, meddai’r Esgob Mary Stallard, yr Esgob Cynorthwyol Bangor.
Rydym ychydig ddyddiau i ffwrdd o'r Nadolig ac mae llawer ohonom yn aros am ddanfoniadau a chyrraeddiadau. Gyda chymaint o weithredu diwydiannol yn effeithio ar y post, trafnidiaeth, iechyd a meysydd eraill o fywyd, mae llawer ohonom yn aros: Aros am newyddion, i bethau gael eu darparu, i bobl gyrraedd, am wybodaeth am y camau nesaf yn ein bywydau, gofal iechyd neu ar gyfer datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mewn banciau bwyd lleol ac ymhlith eglwysi ac elusennau sy'n gweithio'n galed ar gyfer y rhai sydd ag angen ar yr adeg hon, mae pobl hefyd yn disgwyl danfon a chyrraedd.
Nid oes prinder pobl sydd angen cymorth oherwydd yr argyfwng bwyd a thanwydd, a hyfryd yw gweld haelioni cynifer o gynulleidfaoedd sydd wedi ymateb i ymgyrch yr Archesgob ac wedi bod yn barod i gynnig rhoddion i eraill. Rydym yn ymwybodol y gaeaf hwn o gyflwr cymaint sydd angen cymorth; y rhai sy’n teimlo angen yn ein cymunedau ein hunain, ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n chwilio am seibiant rhag sefyllfaoedd o aflonyddwch, bygythiad, neu wrthdaro a hefyd y rhai sydd wedi’u dadleoli neu eu gorfodi i adael eu cartrefi, oherwydd effaith newid yn yr hinsawdd.
Mae stori’r Nadolig yn siarad yn uniongyrchol â’r realiti hwn: mae hanesion genedigaeth Iesu yn frith o straeon am bobl yn disgwyl gobaith a newid: Yn y canol mae’r teulu sanctaidd sy’n dibynnu ar y croeso a gânt gan ddieithriaid, ymhell o’u cartref. Yn y pen draw mae’r stori am Dduw sy’n dod atom, yn derbyn ansicrwydd a pherygl mewn gweithred o hunan-roi llwyr. Duw sy’n cymryd y risg o gael ei eni yn ein plith, gan ddangos inni lawenydd cariad costus.
Dduw ein gobaith, cofiwn sut yr wyt ti yn Iesu yn dod i mewn i’n bywydau mewn ffordd newydd. Llanw ni â dewrder yn yr holl deithiau a wnawn, agor ein calonnau i dderbyn dy bresenoldeb a rhoddion, a helpa ni i fod yn arwyddion o’th groeso i eraill. Amen