‘Goleuni Crist yn trechu ein tywyllwch’
Pa bynnag mor dywyll yr aiff y byd a’n bywydau, ni fydd goleuni Crist byth yn crynu na phylu, meddai Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, yn ei neges Nadolig.
Wrth i mi ysgrifennu, mae'n ansicr a fyddwn ni’n byw o dan gyfyngiadau llymach y Nadolig hwn er mwyn ein helpu i gyfyngu ar ymlediad Covid, amddiffyn gallu'r GIG i ymdopi, a sicrhau lles ei staff. Os bydd hynny’n angenrheidiol, caiff llawer o fusnesau eu heffeithio a bydd pobl oedd wedi bod yn edrych ymlaen at y Nadolig tebycach i’r arferol eu siomi. Serch hynny, rhaid sylweddoli beth fyddai effaith cynnydd serth mewn haint o ganlyniad i Covid i'r unigolion dan sylw, i’r GIG a'r gymdeithas ehangach.
Mae hyn yn dod â ni unwaith eto at y “newydd da o lawenydd mawr”. Ond nid yw’r llawenydd hwnnw’n deillio o’r ffordd byddwn ni’n dathlu’r Nadolig, na chwaith gyda phwy fyddwn ni’n gwneud hynny. Yn hytrach mae’n deillio o’r hyn rydyn ni’n ei ddathlu.
Rydyn ni'n dathlu bod y Fendigaid Forwyn Fair, a oedd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r angel, wedi esgor ar fab o'r enw Iesu, sy'n golygu gwaredwr. Canodd angylion, daeth bugail, darganfu dyn doeth am ei eni yn symudiad y planedau a'r sêr a dod ag anrhegion iddo. “Llewyrchodd y goleuni” ond nid stori dylwyth teg yw hon. Anfonodd Herod ei filwyr a llofruddio’r holl fechgyn ym Methlehem oedd yn ddwy oed neu’n iau, a hynny am ei fod eisiau cael gwared ar y bachgen roedd y doethion wedi dweud amdano a anwyd fod yn Frenin. Cafodd Joseff rybudd ac felly aeth â Mair a'r babi i'r Aifft. “Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch” ac, fel yn y byd heddiw, mae'r tywyllwch yn greulon o real. Nid stori dylwyth teg ond rhan o addewid Duw: “Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.”
Iesu yw goleuni'r byd. Bu fyw a chyhoeddi cariad Duw; galwodd bobl ato ac mae'n ein galw ni i fyw a chyhoeddi cariad Duw hefyd. Bu farw a chododd drachefn i wneud hynny'n bosibl. Gellir cyffesu ein rhan ni yn nhywyllwch y byd a derbyn maddeuant. Pa mor dywyll bynnag mae'r byd yn ymddangos, waeth pa mor dywyll yr ymddengys ein bywydau ni, ni fydd goleuni’r byd byth yn methu nac yn pylu. Fe’n gelwir i droi ein hwynebau at oleuni ein Harglwydd, fel planhigyn sy’n tyfu tuag at yr haul, ac i fod yn llestri er ei gariad, fel canhwyllau bychain.
Wrth i'r haul fachlud ar 24 o Rhagfyr, bydd y Nadolig yn dechrau. Gadewch inni, ble bynnag rydyn ni a beth bynnag rydyn ni’n wneud, droi ein calonnau at Iesu, goleuni’r byd a chyhoeddi, mewn ysbryd o fuddugoliaeth dawel, “y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef” a bod yn ddigon dewr i gerdded ble bynnag mae goleuni Iesu yn ein tywys.
Beth bynnag yw eich amgylchiadau'r Nadolig hwn, bydded i oleuni Iesu ysgafnhau eich calonnau a'ch meddyliau a’ch arwain ar y llwybr, er mwyn i chi adnabod Ei heddwch a'i gysur a bydded bendith Duw, y Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân gyda chi i gyd, y Nadolig hwn a bob amser. Amen
+Joanna Tyddewi