Eglwys yn cymeradwyo gwasanaeth bendithio ar gyfer partneriaethau o’r un rhyw
Bydd cyplau o’r un rhyw yn gallu derbyn bendith ar eu partneriaeth sifil neu briodas yn eglwysi yr Eglwys yng Nghymru am y tro cyntaf ar ôl i ddeddfwriaeth newydd gael ei phasio heddiw (Medi 6).
Cymeradwywyd Bil i awdurdodi gwasanaeth o fendith gan aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yn ei gyfarfod. Fe’i pasiwyd gan y mwyafrif angenrheidiol o ddwy ran o dair ym mhob urdd o’r tri – Esgobion, clerigion a lleygwyr.
Defnyddir y gwasanaeth yn arbrofol am bum mlynedd a mater i glerigion unigol fydd penderfynu a ydynt am ei arwain ai peidio.
Mae’r gwasanaeth am fendith yn unig gan nad yw cyplau o’r un rhyw yn gallu priodi yn yr eglwys.
Cyflwynwyd y Bil gan yr Esgobion, yn dilyn arwydd gan aelodau’r Corff Llywodraethol ei bod yn “fugeiliol anghynaladwy” i’r Eglwys beidio gwneud unrhyw ddarpariaeth ffurfiol ar gyfer y rhai sydd mewn perthnasoedd un rhyw ymroddedig.
Wrth ymateb i’r bleidlais, dywedodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, a gyflwynodd y Bil, “Rwyf ar derfyn y ddadl hon heb unrhyw ymdeimlad o fuddugoliaeth ond gan gredu bod yr Eglwys yng Nghymru wedi gwneud y peth iawn o dan law Dduw dros y gymuned LGBTQIA+. Mae’r Eglwys wedi datgan yn bendant heddiw o blaid bendithion.
Mae taith i’w chymryd o hyd ond gobeithio y gallwn ei theithio ynghyd â phawb o bob rhan o’r Eglwys.”
Pasiodd yr Esgobion y Bil yn unfrydol, pasiodd y clerigion ef o 28 i 12 gyda dau yn ymatal a phasiodd y lleygwyr o 49 i 10 gydag un ymatal.
Cynhaliwyd y drafodaeth a’r bleidlais ar ddiwrnod cyntaf cyfarfod y Corff Llywodraethol yng Nghanolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd. Bydd ail ddiwrnod y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein yn unig, trwy Zoom, ddydd Mercher, Medi 8 a bydd hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw.