Eglwys yn cyflawni Gwobr Aur gyntaf Eco Church yng Nghymru
Ddydd Mercher 30 Awst, daeth Eglwys San Pedr yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun, yn eglwys gyntaf Cymru i dderbyn Gwobr Aur Eco-Church, sy’n golygu ei bod yn esiampl ddisglair o arfer amgylcheddol da i eglwysi sy’n rhoi sylw i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Dyfarnwyd y wobr gan yr elusen gadwraeth Gristnogol A Rocha UK, ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad eglwys San Pedr i gerdded law yn llaw â byd natur, a sicrhau bod gofal am y cread yn ganolog i’w gwaith.
I gyrraedd y wobr Aur, un o’r pethau mae eglwys San Pedr, sydd yn Esgobaeth Llanelwy wedi’i wneud, yw datblygu’r fynwent i’w thrawsnewid yn fan gwyrdd croesawgar sy’n cefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Maen nhw’n annog bywyd gwyllt brodorol trwy ddarparu blychau adar, gwesty trychfilod, hau hadau blodau gwyllt, yn ogystal â chreu ardal labyrinth lle mae modd eistedd a myfyrio’n dawel. Mae’r eglwys yn fan cychwyn a gorffen poblogaidd iawn ar gyfer teithiau cerdded lleol, ac mae paned Masnach Deg ar gael i ymwelwyr y tu mewn. Mae ardal ‘Capel Beuno’ yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc yr eglwys a’r gymuned ehangach, lle maen nhw’n cwrdd yn rheolaidd o amgylch y pydew tân ac yn eistedd ar seddau a grëwyd trwy ailgylchu paledi pren. Defnyddiwyd coed sydd wedi cwympo i gerfio dwy allor sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau awyr agored.
Dywedodd un o Ficeriaid eglwys San Pedr, y Tad Huw: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi llwyddo i gael y wobr hon, ac mai ni yw'r cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at y wobr ers sawl blwyddyn, nid er ei mwyn ei hun yn unig, ond er mwyn gwreiddio gofal da am y cread a stiwardiaeth ar ein hadnoddau yn ein holl waith wrth i ni geisio bod yn bositif o ran carbon erbyn 2030.”
“Mae sicrhau'r wobr Aur wedi bod yn daith wirioneddol, a gychwynnodd wrth i ni agor ein mynwent, cynnwys y gymuned a'r ysgol leol wrth blannu bylbiau a blodau gwyllt, a chreu mannau newydd yn noddfa i fywyd gwyllt a phobl. Ond datblygodd yn llawer mwy na hynny, o sicrhau bod ein cyflenwadau ynni yn dod o ffynonellau gwyrdd adnewyddadwy i gael hyd i gyflenwadau glanhau sydd ddim yn niweidio'r amgylchedd. Yn ogystal â mesur ein hôl troed carbon ein hunain rydyn ni'n annog ein cymuned i fesur eu hôl troed hwythau a chymryd camau i fyw eu ffydd yn eu bywydau trwy leihau eu defnydd o adnoddau'r ddaear a gwneud pethau bach er lles yr amgylchedd, o rannu ceir i ymuno yn yr arfer o beidio â thorri gwair ym mis Mai. Gydag offer fel https://360carbon.org/en-gb/ mae'n eithriadol o hawdd i bawb ymuno yn hyn.”
Dywedodd Delyth Higgins, Swyddog Eco Church Cymru: “Llongyfarchiadau aruthrol i eglwys San Pedr ar eu gwobr Eco Church Aur haeddiannol, ac am fod y cyntaf i gael gwobr Aur yng Nghymru. Mae pob elfen o’u dull gweithredu yn eu gwneud yn esiampl ar gyfer eglwysi sydd am gael gwobr aur. Maen nhw’n rhan bwysig o gymuned wledig glòs yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae eu gwaith yn effeithio ar eraill o’u cwmpas, ac mae gwaith tîm gwych yn amlwg yma. Mae mor galonogol clywed eu bod wedi cael eu bendithio â chynnydd yn eu niferoedd, ac mae llawer o hynny o ganlyniad i’w gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored – yn gofalu am y cread ac yn darparu mannau hyfryd i bobl gwrdd a myfyrio. Mae cymaint i bawb ohonon ni ei wneud o hyd, ac maen nhw’n cydnabod hynny, ond yn y cyfamser rydyn ni’n gobeithio byddan nhw’n mwynhau dathlu’r wobr hon a gweld eraill o bob rhan o Gymru yn cael eu hysbrydoli i ymuno â nhw i weithredu er mwyn gofalu am ein byd rhyfeddol.”
Dywedodd Archesgob Llanelwy, Gregory Cameron, "Argyfwng yr Amgylchedd yw un o'r heriau pennaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth, ac mae'n dod yn fater mwy brys o hyd. Mae mor dda clywed am gynulleidfa a'u clerigwyr yn llwyddo gyda'u gwaith caled i sicrhau bod gofal am yr amgylchedd yn rhan ganolog o'u cenhadaeth, a hoffwn longyfarch pawb a fu'n ymwneud â'r cyflawniad pwysig hwn."
Nod A Rocha UK yw galluogi eglwysi ac unigolion i greu mudiad a fydd yn helpu i adfer bioamrywiaeth ar lefel leol yn y degawd hollbwysig hwn i’r hinsawdd. Mae cynllun gwobrau ‘Eco Church’, sydd bellach yn ei wythfed flwyddyn, yn dod â chymuned o eglwysi ynghyd i roi sylw i argyfwng yr amgylchedd, gan ddefnyddio fframwaith cyffredin, pecyn offer ar-lein, dysgu a chodi llais ar y cyd. Bellach mae dros 6,400 o Eco-Eglwysi yng Nghymru a Lloegr – bron 10% o’r holl eglwysi – sydd eisoes wedi ymuno â chymuned Eco Church, ac mae dros 2,000 ohonynt wedi cyrraedd o leiaf gwobr efydd. Nod A Rocha UK erbyn 2025 yw sicrhau bod o leiaf 25% o eglwysi yn rhan o weithredu parhaus i ddiogelu byd natur a rhoi sylw i’r newid yn yr hinsawdd trwy’r cynllun di-dâl.