Yr Eglwys yn dathlu ei chyfraniad i’r iaith Gymraeg
Caiff cyfraniad eglwyswyr i’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant ei ddathlu mewn cyfres o dair gweminar yn ystod y misoedd nesaf.
O’r cyfieithiad Cymraeg o’r Beibl a salmau mydryddol i farddoniaeth a rhyddiaith grefyddol, bydd y gyfres, Gofal Ein Gwinllan, gyntaf o weminarau yn croniclo cyfraniad nifer o eglwyswyr amlwg o’r 17eg a dechrau’r 18fed ganrif. Bydd cyfres bellach o weminarau wedyn yn adeiladu ar y gyfres gyntaf hon, yn edrych ar gyfraniad eglwyswyr lawr i’r dydd heddiw.
Ymysg y bobl nodedig gaiff eu trafod fydd Dr John Davies, Rheithor Mallwyd, fu â rôl allweddol yn y gwaith o gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg; Rhys Prichard, yr ‘Hen Ficer’ o Lanymddyfri a’i gasgliad dylanwadol iawn o gerddi defosiynol a didactig, Cannwyll y Cymry; a’r clerigwr Ellis Wynne o Lasynys ger Harlech, awdur y clasur Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, a gyhoeddwyd yn 1703.
Er mai nod y gweminarau yw rhoi cyflwyniadau poblogaidd i gynulleidfa eang, mae’r siaradwyr a wahoddwyd yn arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd.
Mae’r Athro E. Wyn James, Athro Emeritws yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymgynghorydd academaidd ar gyfer y gyfres.
Dywedodd: “Oherwydd nerth Anghydffurfiaeth yng Nghymru, yn y 19eg ganrif yn neilltuol, yn aml ni chafodd cyfraniad Anglicanaidd at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant sylw digonol. Fodd bynnag, bu’r cyfraniad hwnnw yn un cyfoeth a chyson dros lawer o ganrifoedd, a nod y gweminarau hyn yw rhoi sylw i’r agwedd hon o’n treftadaeth genedlaethol.”
Trefnir y gyfres gan y Parch Ddr. Ainsley Griffiths, Cyfarwyddwr Ffydd, Trefn ac Undod ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru, gyda’r gweminarau’n cael eu cynnal gan Sefydliad Padarn Sant.
Dywedodd Dr Griffiths,, “Mae Aelodau’r Eglwys Anglicanaidd - ‘yr Hen Fam’– wedi gwneud cyfraniad sylweddol dros y canrifoedd, yn lleol a chenedlaethol, i barhad y Gymraeg a ffyniant y bywyd diwylliannol cysylltiedig.
“Gobeithiwn y bydd y gyfres hon yn ein galluogi i werthfawrogi Cymreictod cynhenid yr Eglwys yng Nghymru yn well, yn ogystal â rhoi sbardun ar gyfer mentrau creadigol mewn cenhadaeth a gweinidogaeth yn y dyfodol.
“Mae gennym raglen wych o siaradwyr ar gyfer ein tair gweminar gyntaf ac rydym yn ddyledus iawn iddynt am eu cyfraniad. Mae gennym gyfoeth o ddeunydd, felly ein nod yw parhau’r gyfres yn dilyn y casgliad dechreuol hwn.”
Ychwanegodd y Parch Ddr Manon James, Deon Hyfforddiant Cychwynnol i’r Weinidogaeth: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr am y gweminarau hyn ac am y cyfle i ddysgu am rôl hanesyddol yr Eglwys yng Nghymru wrth ddatblygu diwylliant Cymreig a hyrwyddo’r Gymraeg.
“Yn fy ymchwil fy hunan i hunaniaeth Gymreig, cefais fy synnu cyn lleied a wyddwn am fy nhraddodiad a’m hanes. Bydd y gweminarau hyn yn sicrhau na aiff yr hanes pwysig hwn yn angof. Byddant hefyd yn ein helpu i fod yn hyderus a dewr wrth rannu’r newyddion da yn ein hoes ein hunain.”
Gofal Ein Gwinllan
Mae’r gweminarau yn rhad ac am ddim a chânt eu cyflwyno yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.
Y rhaglen yw:
- Sadwrn, 20 Mawrth 2021; 10.00–11.30
Dr Dylan Foster Evans: ‘John Davies, Mallwyd, a rhyddiaith Anglicanaidd yr 17eg ganrif.’
Parch. Ddr Adrian Morgan: ‘Y Salmau Cân yn eu cyd-destun’
- Sadwrn, 24 Ebrill 2021; 10.00–11.30
Yr Athro E. Wyn James: ‘Carol a Chwndid’
Yr Athro Christine James: ‘Y Ficer Prichard a Cannwyll y Cymry’
- Sadwrn, 8 Mai 2021; 10.00–11.30
Dr A. Cynfael Lake: ‘Ellis Wynne o'r Lasynys a Chwrs y Byd’
Yr Athro Huw Pryce: ‘Iachawdwriaeth, Rhagluniaeth a Hanes: Theophilus Evans a Drych y Prif Oesoedd’
I gael mwy o fanylion am y gweminarau, cysylltwch â:
gofaleingwinllan@churchinwales.org.uk .