Eglwys yn coginio ciniawau Nadolig am ddim i'r digartref
Mae grŵp o addolwyr o Eglwys Llanberis yn paratoi tri deg cinio Nadolig i breswylwyr digartref, gan droi cegin yr eglwys yn llinell gynhyrchu nadoligaidd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Mae'r wyth o ferchedd o Eglwys Sant Padarn yn coginio popeth o dwrci a selsig mewn bacwn (soch mewn sach)i bwdin Nadolig, gan becynnu'r prydau ar gyfer preswylwyr yng Ngwesty Dolbadarn gerllaw, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel llety brys yn ystod pandemig 2020.
Dechreuodd y fenter yn ystod y cyfnod clo pan sylweddolodd y grŵp y byddai darparwyr talebau prydau arferol ar gau ar Ddydd Nadolig, gan adael preswylwyr heb fynediad at bryd poeth. Gyda'r gwesty wedi'i leoli ar waelod dreif yr eglwys, mae'r gwirfoddolwyr wedi datblygu perthynas dda gyda'r gymuned ddigartref.
Mae Heather Jones, un o'r gwirfoddolwyr yn cofio moment deimladwy o flwyddyn flaenorol: "Roedd yr ymateb yn 'Waw, fe wnaethoch chi hyn i ni!' Roedd yn golygu cymaint, yn enwedig gan fod peth gwrthwynebiad cychwynnol yn y gymuned i'r gwesty yn dod yn llety i'r digartref."
I'r merched sy'n cymryd rhan, mae'r fenter hon yn enghraifft o wir ystyr y Nadolig. "Fel addolwyr, rydym bob amser wedi ceisio byw yn ôl yr efengylau, nid dim ond eu darllen," medd Heather. "Nid ar gyfer dyddiau Sul yn unig mae'r eglwys - mae'n ymrwymiad 24/7 i ddangos sut roedd Iesu'n bwriadu i ni garu ein gilydd. Mae ein cymdeithas heddiw yn galw am fwy o Samariaid da."
Mae'n enghraifft wych o roi'r egwyddor Gristnogol o garu'r byd ar waith!
Mae'r fenter cinio Nadolig yn rhan o ymgysylltiad ehangach Eglwys Sant Padarn â materion digartrefedd. Drwy gydol y flwyddyn, mae'r eglwys yn cefnogi Banc Bwyd Arfon a GISDA, sefydliad digartrefedd ieuenctid, gan ddarparu hanfodion fel eitemau ymolchi i'r rhai mewn angen.
Dywed y Canon Naomi Starkey, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Eryri, sy'n cynnwys Eglwys Sant Padarn, "Ni allaf siarad yn ddigon uchel am egni a haelioni tîm Sant Padarn sy'n cynllunio ac yn paratoi'r prydau hyn ar gyfer y rhai mewn angen. Mae'n enghraifft wych o roi'r egwyddor Gristnogol o garu'r byd ar waith!"