Twf yr Eglwys yn Y Bermo diolch i Llan Llanast

Daeth cynulleidfa niferus i Eglwys Ioan Sant yn Y Bermo i’r digwyddiad Llan Llanast diwerddaf ym mis Mawrth, gyda 60 o blant yn cymryd rhan. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o haf 2023, pan nad oedd dim ond 15 o blant yn bresennol.
Mae Llan Llanast yn Eglwys Ioan Sant yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys crefftau, gemau a gweithgareddau hwyliog sy’n gysylltiedig â bwyd fel addurno crempogau. Mae’n rhoi cyfle i blant archwilio ffydd trwy fynegiant creadigol wrth ddysgu am gariad, caredigrwydd a thrugaredd. Mae pob sesiwn yn cynnwys amser ar gyfer addoli. Yn ystod darlleniadau penodol o'r Beibl, megis stori Iesu yn cael ei demtio gan y Diafol, mae'r plant yn gweiddi “Hwre!” yn frwdfrydig pan glywant enw Iesu ac “Bŵ!” pan enwir y Diafol. Mae’r dull rhyngweithiol hwn yn helpu i atgyfnerthu’r neges bod Iesu’n dod â newyddion da.
Wedi ei sefydlu 21 mlynedd yn ôl, mae Llan Llanast bellach wedi ei sefydlu mewn 30 o wledydd fel ffordd ledaenu neges Gristnogol ymysg teuluoedd. Dengys ymchwil o 2019 fod mwy na 60 y cant o'r teuluoedd sy’n mynychu Llan Llanast yn newydd i’r eglwys. Roedd yr adroddiad ‘Playfully Serious,’ a oedd yn seiliedig ar ddwy flynedd o ymchwil gan Lu’r Eglwys, yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda arweinwyr eglwys, gwirfoddolwyr, a chyfranogwyr. Canfu fod 40 y cant o'r rhai sy’n mynychu yn dod o deuluoedd heb fawr ddim neu ddim cysylltiad blaenorol o gwbl â’r eglwys, ac 20 y cant o deuluoedd oedd wedi rhoi’r gorau i fynychu’r eglwys yn llwyr.
Mae Eglwys Ioan Sant bellach yn lle croesawgar i deuluoedd, gan ddenu pobl o bell ac agos, gan gynnwys Tywyn a Dolgellau, i ymuno â'r gymuned.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf