Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn croesawu cadoediad Israel – Gaza
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol:
“Rydym yn croesawu’r cadoediad ac yn gweddïo y bydd hwn yn nodi diwedd gwrthdaro torcalonnus sydd wedi dod â dioddefaint a galar i gynifer. Yr ydym yn cofio pawb sydd wedi’u heffeithio gan drais, caledi a chasineb, a gweddïwn dros y rhai sy’n ymwneud â’r dasg o adeiladu heddwch – fel y bydd ganddynt y cryfder, y doethineb a’r gras y bydd eu hangen er mwyn dod â gobaith ac iachâd.”