Grant yr Eglwys yng Nghymru yn ysgogi adfywiad mewn gweinidogaeth ieuenctid

Mae prosiect eglwys arloesol, wedi’i ariannu gan yr Eglwys yng Nghymru, wedi ysgogi twf rhyfeddol mewn gweinidogaeth ieuenctid, gan ymgysylltu â mwy na 160 o blant mewn tri phlwyf arfordirol. Flwyddyn yn ôl, dim ond dau blentyn oedd yn cymryd rhan.
Mae’r prosiect Faith Alive o Ardal Weinidogaeth Bro Dwylan yn Esgobaeth Bangor yn cyfuno addoli rheolaidd sy’n ystyriol o deuluoedd â gweithgareddau ymarferol i blant a phobl ifanc. Mae Clwb Plant misol yn cyfarfod yn y ganolfan gymunedol leol, gan gynnig straeon o’r Beibl, celf a chrefft, gemau, a chinio picnic blasus wedi’i ddarparu gan wirfoddolwyr.
Ochr yn ochr â gweithgareddau rheolaidd, mae’r prosiect yn cynnal digwyddiadau tymhorol i gynnwys pobl a allai fod yn newydd i’r eglwys. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys sesiynau’r haf yn chwilota pyllau glan môr, gan archwilio creadigaeth Duw, dan arweiniad y Parchg Andy Broadbent, sydd hefyd yn fiolegydd morol, dathliadau Calan Gaeaf sy’n canolbwyntio ar draddodiadau Cristnogol, a gweithgareddau rhyngweithiol Nadoligaidd gan gynnwys arddangosfeydd stori’r geni a gweithdai crefft.
Mae cyllid hefyd wedi galluogi creu man sy’n groesawgar i deuluoedd yn Eglwys y Santes Fair a Christ yn Llanfairfechan, ynghyd â seddi cyfforddus, bwrdd Lego, teganau plant, llyfrgell ac ardal gelf.
Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol. Lle’r oedd ond dau blentyn yn mynychu yn flaenorol, mae Ardal y Weinidogaeth bellach yn ymgysylltu’n rheolaidd â dros 160 o blant drwy ei digwyddiadau, gan gyrraedd cannoedd ychwanegol drwy fentrau cymunedol ar y cyd. Mae nifer o deuluoedd newydd yn dod i wasanaethau addoli yn rheolaidd erbyn hyn.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf