Yr Eglwys yn buddsoddi £5m mewn prosiectau newydd ar gyfer twf
Mae dau brosiect uchelgeisiol i hybu twf eglwysig yng Nghymru wedi sicrhau grantiau o bron £5m rhyngddynt.
Mae canolfannau cenhadaeth newydd yn Esgobaeth Tyddewi ac allgymorth i bobl ifanc yn Esgobaeth Llandaf wrth galon y prosiectau diweddaraf i ennill grantiau o Gronfa Efengyliaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Sefydlwyd y Gronfa Efengyliaeth yn 2018 i helpu ennyn diddordeb pobl yn y ffydd Gristnogol mewn ffyrdd bywiog a chyffrous. Daw’r arian o fuddsoddiadau’r Eglwys a chaiff ei ddyrannu gan bwyllgor gydag arbenigedd mewn twf eglwysig a mentrau busnes. Gwnaed grantiau eisoes i Esgobaeth Llanelwy a hefyd Esgobaeth Bangor.
Dyfarnwyd grant o £2.9m i Esgobaeth Llandaf ar gyfer prosiect Ffydd Ifanc sy’n anelu i ennyn diddordeb y genhedlaeth goll o fynychwyr eglwys – plant, myfyrwyr ac oedolion ifanc. Gan weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion ac eglwysi ar draws yr esgobaeth, bydd Ffydd Ifanc yn arloesi gyda strategaeth graddfa fawr gyda ffocws ar ysgolion ar gyfer ymgysylltu ffydd ifanc yng Nghymru. Yn ychwanegol, bydd y prosiect yn adfywio’r eglwys ar gyfer cenhedlaeth iau drwy sefydlu eglwys yng nghanol poblogaeth myfyrwyr Caerdydd i wasanaethu anghenion myfyrwyr a theuluoedd ifanc.
Dyfarnwyd £1.9m i Esgobaeth Tyddewi i ddatblygu tair Canolfan Cenhadaeth ranbarthol, mewn partneriaeth gyda Byddin yr Eglwys. Caiff efengylwyr eu recriwtio i bob canolfan fydd yn gwasanaethu cymunedau drwy amrywiaeth o weithgareddau ac yn annog pobl o bob oed i addoliad Cristnogol, mewn cysylltiad gydag eglwysi presennol.
Wrth gyhoeddi’r grantiau, dywedodd Syr Paul Silk (yn y llun), cadeirydd pwyllgor y Gronfa Efengyliaeth, “Rydym yn hynod falch i fedru rhoi’r golau gwyrdd i ddau fuddsoddiad sylweddol mewn gwaith efengylol yn esgobaeth Tyddewi a Llandaf. Fel stiwardiaid cyllid yr Eglwys yng Nghymru, mae’n rhaid i ni sicrhau ein hunain fod yr achosion busnes a gawn yn gadarn ac y bydd y prosiectau yr ydym yn helpu i’w hariannu yn dwyn ffrwyth. Rydym yn hyderus y bydd hynny’n digwydd a, gyda help yr Ysbryd Sanctaidd, y bydd prosiectau’r ddwy esgobaeth yn llwyddiannus iawn. Dymunwn yn dda iddynt.”
Dywedodd June Osborne, Esgob Llandaf, “Mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys ymestyn allan i bobl ifanc mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Ein nod yw i’r eglwys gysylltu gyda phlant a phobl ifanc, i ennyn eu diddordeb yn yr hyn sy’n bwysig iddynt, ac felly i deimlo’n fwy perthnasol yng nghymdeithas heddiw. Gydag unigrwydd a’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, gall yr eglwys gynnig cariad, gobaith ac ymdeimlad o gymuned i’r bobl ifanc hynny sy’n chwilio am fwy o ymdeimlad o bwrpas.
“Mae’n amser cyffrous i ni yn Esgobaeth Llandaf wrth i ni ddechrau ymestyn allan gyda chynnig ffydd a pherthyn i’r genhedlaeth goll hon. Allwn ni ddim disgwyl i ddangos yn union pa mor foddhad y gall bywyd a gaiff yn ei fyw yng Nghrist roi.”
Meddai Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi: “Byddwn yn defnyddio’r arian hwn i greu dwy Ganolfan Cenhadaeth arall a mynd â’n canolfan presennol yn Hwlffordd i gyfnod nesaf ei bywyd, rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosibl heb y grant hwn.
“Bydd y canolfannau hyn yn cael effaith gadarnhaol yn eu lleoliadau eu hunain a hefyd ar draws yr Esgobaeth gan y bydd yr efengylwyr yn rhoi peth o’u hamser i helpu eu hardaloedd gweinidogaeth leol i ddatblygu eu hefengyliaeth a’u hallgymorth.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am yr hwb ariannol hwn ac am haelioni Byddin yr Eglwys a hefyd ein cyfeillion Methodistaidd yn Hwlffordd ac edrychwn ymlaen at dyfu partneriaethau eciwmenaidd newydd wrth i’r Canolfannau Cenhadaeth esblygu.”
Prosiectau eraill
Dyfarnodd y Gronfa Efengyliaeth ddau grant y llynedd.
Ym mis Mehefin dyfarnodd £1.9m i Esgobaeth Llanelwy ar gyfer ei phrosiect Hope Street, a anelwyd at bobl ifanc a theuluoedd. Caiff hen siop ddillad Burton ar Hope Street yng nghanol Wrecsam ei throi yn ganolfan allgymorth Cristnogol ac yn adnodd ar gyfer yr holl esgobaeth. Caiff ei harwain ar y cyd gan Andy a Rachel Kitchen, sydd ar hyn o bryd yn aelodau staff Holy Trinity Brompton (HTB), yn Llundain.
Ym mis Hydref dyfarnodd £3m i Esgobaeth Bangor ar gyfer prosiect Llan. Bydd Llan yn datblygu gweinidogaeth pererindod, tyfu cymuned eglwys Gymraeg newydd a lansio pedair menter gymdeithasol, yn arloesi math newydd o bresenoldeb a thystiolaeth Anglicanaidd mewn pedair tref a phentrefi.