Yr Eglwys yn ymuno ag Ymgyrch Achub Bywyd Cymru
Efallai mai achub eneidiau yw busnes yr Eglwys ond gofynnir i blwyfolion yn awr ymuno i achub bywydau hefyd.
Yn flynyddol yng Nghymru bydd mwy na 6,000 o bobl yn cael ataliad ar y galon – pan fydd y galon yn stopio yn sydyn - a bydd llawer yn marw os na chânt ymyraethau syml a hawdd eu dysgu. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ymgyrch Cyffwrdd â Bywyd Achub Bywyd Cymru i annog pobl i ddysgu elfennau sylfaenol adfywio fel eu bod yn gallu helpu mewn argyfwng.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, nod yr ymgyrch hon yw cynyddu’r gyfradd oroesi, yn dilyn ataliad ar y galon yn y gymuned, o’r gyfradd bresennol o lai na phump y cant.
Fel cam cyntaf, rydym yn gofyn i bobl wylio fideo hyfforddi ar: https://llyw.cymru/achub-bywyd-cymru
Mae camau eraill i’w cymryd hefyd, fel gosod diffibriliwr gyda mynediad cyhoeddus yn eu heglwys neu neuadd gymunedol a chynnal sesiwn hyfforddi Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliwr, ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.
Mae’n bwysig sicrhau bod eraill yn ymwybodol o’r adnoddau a gwahoddir pobl i rannu’r ymgyrch ar eu gwefannau a’u cyfryngau cymdeithasol. Dysgwch ragor yn Twitter @savelifecymru a Facebook @achubbywydcymru ac ymuno gyda’r hashnod #TouchSomeonesLife
Meddai’r Parch David Morris, Deon Priordy Cymru Ambiwlans Sant Ioan Cymru, “Mae’r Eglwys yng Nghymru yn sefydliad gyda phresenoldeb ym mron bob cymuned yng Nghymru, y gallech ddweud ei bod yn ymwneud â’r busnes o achub bywydau mewn ffyrdd amrywiol - yn ysbrydol, emosiynol a chorfforol – ac felly mae gan ein partneriaeth gydag Achub Bywyd Cymru y potensial i wneud gwahaniaeth anferth.
“Mae Achub Bywydau Cymru yn gynllun uchelgeisiol a hanfodol i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl ar draws Cymru yn gwybod beth yw’r camau syml ond sylfaenol y gallant eu cymryd petai rhywun yn cael ataliad ar y galon.
“Ein gobaith yw y bydd eglwysi ar draws Cymru yn cymryd rhan yn frwdfrydig yn y cynllun hwn, gan annog aelodau i fod yn ymwybodol o egwyddorion sylfaenol y gadwyn oroesi a CPR, i roi cartref i ddiffibriliwr efallai neu roi un i’r gymuned leol, neu i ddilyn cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol. Gall y camau syml yma droi’r llanw ar y nifer o farwolaethau y gellid bod wedi eu hatal.”
Mae Cyffwrdd â Bywyd Rhywun yn esbonio beth ddylai unrhyw unigolyn ei wneud pan fydd ataliad ar y galon. Rhaid i CPR gael ei ddechrau ar unwaith i bwmpio gwaed o gwmpas y corff a dylid defnyddio diffibriliwr i ailgychwyn y galon. Oherwydd ei fod yn amhosibl i’w ragweld a’i fod mor sensitif i amser mae ataliad ar y galon yn y gymuned yn argyfwng meddygol unigryw. Nid oes unrhyw sefyllfa feddygol arall sy’n dibynnu ar ymyrraeth gymunedol o’r fath.
Dywedodd Cadeirydd Achub Bywyd Cymru, yr Athro Emeritws Len Noakes, “Mae tua 80% o ataliadau ar y galon yng Nghymru yn digwydd yng nghartrefi pobl a gallant ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw amser ac mae llawer yn ymddangos yn iach heb unrhyw ffactorau risg yn hysbys. Mae hyn yn tanlinellu’r pwysigrwydd i bawb gael sgiliau achub bywyd i helpu i achub eu teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion neu ddieithryn. Ein huchelgais yw creu newid diwylliannol ar draws Cymru lle mae gan bawb y sgiliau a’r hyder i ddechrau ar CPR a defnyddio diffibriliwr i helpu unrhyw un sy’n profi ataliad ar y galon.”
Ychwanegodd Mr Nokes, “Mae CPR yn sgil sylfaenol y dylai pawb allu ei chyflawni. Gallai achub bywyd rhywun. Peidiwch â bod ofn defnyddio diffibriliwr. Allwch chi ddim gwneud niwed ac mae’n cynyddu’r gobaith o oroesi yn ddramatig.”
Am ragor o wybodaeth chwiliwch am Achub Bywyd Cymru neu ewch i: