Yr Eglwys yn lansio cynllun 10-pwynt tuag at sero net
O lanhau cafnau i ailwampio’r system wresogi, caiff cynllun 10-pwynt ei lansio heddiw i helpu eglwysi i ostwng eu ôl-troed carbon, cyn Sul y Creu (12/02/23).
Mae’r canllawiau yn awgrymu camau y gall pob eglwys eu cymryd – gan ddechrau gyda chamau bach ac adeiladu at dargedau mwy. Cawsant eu cynhyrchu fel rhan o ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i gyrraedd sero net carbon erbyn 2030 a bydd yn gynnig cyfle i eglwysi i ddangos fod “gweithredoedd yn well na geiriau”.
Dywedodd Dr Julia Edwards, Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yr Eglwys, y bydd y canllawiau yn helpu eglwysi i ganfod llwybr drwy’r hyn a all ymddangos yn dasg anodd.
Meddai, “Mae gennym darged heriol ac uchelgeisiol i’w gyrraedd a, fel gyda phob ymdrech fawr, bydd yn rhwyddach pan wnewch ei rhannu yn gamau llai. Bydd y canllawiau hyn yn helpu eglwysi gydag enillion cyflym a symud ymlaen i gynlluniau mwy o ran maint ac uchelgais.”
Mae’r canllawiau yn annog eglwysi i fod yn greadigol ac yn huawdl ac i fod yn gatalydd dros newid yn eu cymunedau. Wrth iddynt weithio eu ffordd drwy’r 10 pwynt, byddant yn gweld enillion gwirioneddol ar y ffordd.
Mae’r pwyntiau’n cynnwys mesur ôl-troed carbon eglwys gyda Dyfais Ôl-troed Ynni, cyfrifydd ar-lein a gyfer allyriadau carbon. Mae hyn yn galluogi eglwysi i ganfod lle gallant wneud y gwahaniaethau mwyaf. Caiff ei lansio ym mis Ebrill.
Ar gyfer eglwysi sydd wedi gostwng cymaint ag sydd modd ar eu hallyriadau, mae’r canllawiau yn cynnwys awgrymiadau ar sut i wrthbwyso’r gweddill, efallai drwy ddad-ddofi rhannau o’r fynwent neu blannu coed yn lleol.
Meddai Dr Edwards, “Mae hwn yn gyfle i ddangos fod targedau sero net am newidiadau byd go iawn, nid dim ond rhethreg gyda bwriadau da. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae’r Eglwys yng Nghymru eisiau bod ar flaen y gad gyda newid. Gobeithiwn y bydd y canllawiau hyn yn helpu ein heglwysi i ddechrau arni a’u hysbrydoli i wneud gwahaniaeth go iawn.”
Mae’r canllawiau, a elwir yn Sero net yw’r nod: Ble i ddechrau? yn dilyn Llwybr ymarferol tuag at carbon sero net ar gyfer ein heglwysi sy’n amlinellu camau manwl i eglwysi eu cymryd.