Yr Eglwys yn lansio ymgyrch Adfent
Ar ôl blwyddyn neilltuol o dywyll a phryderus, caiff pobl ar draws Cymru eu hannog i ganfod gobaith a goleuni yng nghariad Duw wrth i ni baratoi at y Nadolig.
Tywyllwch i Oleuni yw thema ymgyrch Adfent yr Eglwys yng Nghymru, a lansir heddiw (ddydd Llun).
Dros yr wythnosau nesaf bydd yr ymgyrch yn rhoi sylw i drac fideo gan Guvna B, Cristion amlwg a rapiwr a dderbyniodd ddwy wobr MOBO a straeon gan ‘gynhalwyr y fflam’ - pobl a aeth yr ail filltir eleni i fwrw goleuni i’w cymunedau.
Sul yr Adfent
Ar Sul yr Adfent – sydd eleni ar 29 Tachwedd – bydd Archesgob Cymru yn anfon neges Adfent a bydd ein chwe chadeirlan ac eglwysi mwyaf yn goleuo ar ôl iddi dywyllu. Bydd yr eglwysi yn sefyll allan fel llusernau yn eu trefi a dinasoedd fel symbol grymus, hyd yn oed pan fu’n rhaid i’w drysau gau neu na fedrwyd cynnal gwasanaethau traddodiadol, fod yr Eglwys yn dal yn bresennol ac yn gwasanaethu’r Gymuned.
Bydd y chwe Esgob yn cyhoeddi “galwad i weddi” ar gyfer y genedl ar Sul yr Adfent. Byddant yn gwahodd pawb, o bob ffydd a heb ffydd, i ymuno â nhw mewn gweddi am iachâd a bendith Duw ar Gymru, bob dydd am 6pm o Sul yr Adfent i Ddydd Nadolig.
Carol i Gymru
Gyda llawer o wasanaethau carolau traddodiadol yn edrych yn wahanol iawn eleni oherwydd cyfyngiadau Covid ar niferoedd a chanu, caiff pobl eu hannog i adfer yr hen draddodiad Cymreig o ganu carolau o’u cartrefi. Mae cynllun Carol i Gymru yn gwahodd pawb i ganu’r garol hoff, Dawel Nos, ar eu carreg drws am 7pm ar Noswyl Nadolig, gan godi eu lleisiau ar draws pentrefi a threfi i ledaenu llawenydd a heddwch.
Caiff ymgyrch Tywyllwch i Oleuni ei rhannu a’i hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol gydag amrywiaeth o adnoddau digidol i bawb eu defnyddio.
Rhannwch y goleuni
Dywedodd Esgob Bangor, Andy John, yr esgob arweiniol ar Ymgyrch yr Adfent,
“Mae neges Gristnogol yr Adfent, o ddyfodiad goleuni Duw i dywyllwch ein bywydau, yn neilltuol o berthnasol eleni i fyd a gafodd ei daflu i argyfwng gan y pandemig Covid. Rydym yn byw ein bywydau mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen – yn bell o’n gilydd, yn bryderus, yn ansicr, yn ofnus, yn wael ac yn galaru. Mae llawer yn teimlo cysgodion tywyllwch a thrallod o’u hamgylch.
“Nod ein hymgyrch Adfent Tywyllwch i Oleuni yw tynnu pobl i olau a gobaith – y golau pur a ganfyddwn yn neges Crist o iachawdwriaeth i bawb a dangos hynny drwy gariad a gweithiau da pawb o’n hamgylch.
Gwahoddwn chi i rannu’r adnoddau hyn, ymuno yn y gweithgareddau a bod yn olau i’r rhai o’ch amgylch.”