Eglwys yn lansio safle cyfrannu ar-lein
Mae’n rhwyddach nag erioed i gyfrannu at eglwysi a phlwyfi diolch i lansiad safle cyfrannu ar-lein hollol ddigidol yr Eglwys yng Nghymru.
O heddiw ymlaen, gall pobl gyfrannu’n ddigidol i unrhyw blwyf neu brosiect sydd wedi cofrestru ar gyfer Rhoi Yn Syth drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Gallant drefnu’r cyfraniadau eu hunain, gan ddewis i ble yr aiff eu cyfraniad, faint maent eisiau ei roi, pa mor rheolaidd y dymunant gyfrannu neu newid cyfraniadau presennol. Gallant hefyd gael Cymorth Rhodd ar eu cyfraniad i wneud iddo fynd hyd yn oed ymhellach.
Cafodd datblygu safle Rhoi Yn Syth ei gyflymu fel rhan o ymateb yr Eglwys i bandemig Covid-19 er mwyn ei gwneud yn haws i bobl i gefnogi gweinidogaeth plwyf.
Dywedodd Esgob Bangor, Andy John, sy’n gadeirio GenRus, y Grŵp Stiwardiaeth Taleithiol, “Cafodd yr Eglwys yng Nghymru ei bendithio gan gyfraniadau hael dros flynyddoedd lawer. Rwy’n falch iawn y bydd technoleg newydd yn ehangu’r potensial i’r haelioni hwn barhau’n hir i’r dyfodol,. Mae GenRus wedi gweithio’n galed gyda chydweithwyr o’r swyddfa daleithiol i sicrhau’r llwyfan cyfrannu newydd hwn. Bydd ‘Rhoi Yn Syth’ yn golygu y gall unigolion gefnogi pob math o brosiect newydd, yn ogystal â chymuned eu heglwys leol ac rwy’n falch cymeradwyo ei ddefnydd ar draws y dalaith.”
Cafodd cynllun Rhoi Yn Syth ei wneud yn rhannol ddigidol y llynedd i alluogi pobl i ymuno ar-lein. Fel canlyniad, mae llawer o blwyfi ac eglwysi wedi cofrestru eu manylion gyda’r cynllun. Mewn un esgobaeth, lle bu ymgyrch fawr i gofrestru, bu cynnydd mewn cyfraniadau yn gyfwerth â chwarter miliwn o bunnau yn ychwanegol bob blwyddyn.
Ychwanegodd yr Esgob Andy, “Gobeithiwn y bydd ein holl eglwysi yn cofrestru am Rhoi Yn Syth nawr fel y gall cyfranwyr eu canfod ar ein cynllun os dymunant roi arian. Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb a rydym yn ddiolchgar tu hwnt am haelioni ein holl gyfranwyr sy’n ein galluogi i barhau ein gweinidogaeth i bawb yng Nghymru.”
I gofrestru eich eglwys ar gyfer Rhoi Yn Syth cysylltwch â thîm Gift Direct ar: giftdirect@churchinwales.org.uk
Cefnogwch eich eglwys
Rhoi Yn Syth