Eglwys yn lansio cwrs diogelu ar gyfer pob aelod
Caiff holl aelodau eglwys eu hannog i ddilyn cwrs ymwybyddiaeth o ddiogelu i sicrhau fod eglwysi yn fannau diogel i bawb.
Lansir cwrs newydd ymwybyddiaeth o ddiogelu ar-lein ar gyfer pawb sy’n ymwneud â bywyd eglwys – o arweinwyr i aelodau’r gynulleidfa. Caiff ei gyflwyno gan Sefydliad Padarn Sant, braich hyfforddiant yr Eglwys yng Nghymru.
Aiff y cwrs â phobl drwy gyfres o ffilmiau wedi eu hanimeiddio i esbonio rôl diogelu ym mywyd yr eglwys mor glir ag sydd modd. Mae’n cynnwys pynciau tebyg i sut i adnabod arwyddion o gam-driniaeth emosiynol, corfforol neu rywiol a beth i’w wneud os ydych yn amau fod cam-driniaeth yn digwydd. Ar ôl cofrestru, mae’n cymryd tua 90 munud i orffen y cwrs. Mae’n cynnwys dau gwis y mae’n rhaid i bobl eu pasio cyn y byddant yn cael tystysgrif.
Dywedodd Dr Julie Davies, tiwtor diogelu yn Sefydliad Padarn Sant, “Mae diogelu yn gyfrifoldeb arnom i gyd – nid dim ond y swyddogion hynny gyda hyfforddiant neilltuol. Mae angen i bawb ohonom fod yn ymwybodol o ba mor ddiogel yw’r rhai o’n cwmpas a beth i’w wneud os oes gennym unrhyw bryderon amdanynt.
“Ein nod yw gweld pob aelod o’r Eglwys yng Nghymru a’n cymunedau yn ehangach yn cwblhau’r cwrs yma ac felly’n gwneud ein heglwysi’n fannau mwy diogel i bawb. Mae angen i ni sicrhau fod arferion diogelu da yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth a’n gweinidogaeth.
Nid oes gan yr eglwys unrhyw newydd da i’w rannu os nad yw’n lle diogel. Er mwyn siarad am Dduw fel rhoddwr gobaith a sicrwydd mae angen i’r eglwys fod yn fan diogel a rhoddwr gobaith a sicrwydd.”
Dywedodd John Davies, Archesgob Cymru, “Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i fod yn ymwybodol o anghenion pobl fregus. Mae gan gymunedau’r eglwys, fel lleoedd lle dylai pawb gael eu croesawu a bod yn ddiogel, gyfrifoldeb neilltuol am sicrhau fod ganddynt bolisïau a gweithdrefnau clir i sicrhau y caiff pobl bregus eu gwarchod ac y gofelir amdanynt ac nad ydynt byth yn cael eu hunain yn cael eu cam-drin neu eu niweidio mewn unrhyw ffordd.
“Felly rwy’n croesawu’n gynnes y gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau hyn ac wrth wneud hynny, hoffwn ganmol pawb yn ein cymunedau eglwysog sy’n gyfrifol am oruchwylio y caiff eu nodau eu deall a’u gweithredu.”
I gael mynediad i’r cwrs, cliciwch ar y ddolen islaw a dewis Defnyddiwr Newydd a aiff â chi i’r dudalen gofrestru. Dewiswch y cwrs o ochr dde uchaf y dudalen. Mae cynlluniau ar y gweill i’r cwrs fod ar gael yn y Gymraeg.
Cwrs ymwybyddiaeth o ddiogelu
Cwrs ymwybyddiaeth o ddiogelu