Arweinwyr Eglwysi Prydain ac Iwerddon yn uno mewn ymateb i Covid 19
Mewn modd digyffelyb, daeth uwch arweinwyr yr Eglwysi ynghyd ar ddydd Mercher y 1af o Ebrill. Cafwyd cynhadledd fideo foreol yn cynnwys arweinwyr crefyddol o bob cwr o Brydain ac Iwerddon i rannu y sefyllfa ym mhob un o'u hawdurdodaethau. Deilliodd y fenter pan gynhigiodd Archesgob Justin Welby gyfle i arweinwyr glywed a chefnogi ei gilydd yn y dyddiau tyngedfennol hyn i'n gwledydd.
Cafwyd cyfarfod fideo prynhawn o uwch swyddogion llawer o'r eglwysi yn cynnwys trafodaethau am addoli ar-lein, gofal bugeiliol mewn ysbytai, trefniadau angladd mewn gwahanol fannau, ynghyd â gwybodaeth am drefniadau furlough sy'n cael eu hystyried gan rai Eglwysi.
Cefnogir y datganiad gan eglwysi sy’n aelodau o Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, ynghyd ag Eglwysi ynghyd yn Lloegr, Cytun, ACTS a Chyngor Eglwysi Iwerddon.
Datganiad Wythnos y Pasg gan Arweinwyr Eglwysi Prydain ac Iwerddon
Mae byd Duw yng nghanol argyfwng na welwyd ei fath o’r blaen. Yng ngwledydd yr Ynysoedd hyn mae firws Covid-19 yn parhau i effeithio ar bobl ar raddfa frawychus. Mae’r gwasanaethau iechyd, ynghyd â llawer o’n sefydliadau a mudiadau, yn lleol ac yn genedlaethol, dan bwysau enbyd, ac mae pobl yn gorfod dygymod â byw mewn ffordd wahanol iawn, llawer ohonynt mewn unigrwydd eithafol. Fel yn achos pob argyfwng o’r fath, mae yna berygl mai’r rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas fydd yn dioddef fwyaf.
Mae Cristnogion ledled y byd ar drothwy cyfnod pwysig yn y flwyddyn eglwysig, pryd byddwn yn cofio marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Mae dyfnderoedd anobaith ac uchelfannau llawenydd ill dau yn ganolog i’n ffydd gyffredin. Yn y Beibl ac yng nghaneuon a litwrgïau’r Eglwys, fe welwn Iesu’n profi’n gyflawn ddioddefaint dynol. Yn ei Atgyfodiad, trawsffurfiwyd y dioddefaint hwnnw drwy ei waith achubol yn obaith a llawenydd. Ar ôl marw Iesu, roedd y disgyblion yn ofnus ac ymddangosai fod popeth ar ben mewn anobaith, ond daeth y Crist atgyfodedig atynt yn eu trallod ac ailgynnau gobaith drwy ei fuddugoliaeth dros angau. Gweddïwn y disodlir anobaith y byd heddiw gan yr un gobaith hwnnw.
Yn Llyfr Daniel, fe ddarllenwn am gaethgludo pobl Dduw i Fabilon. Ni allai Daniel weddïo yn y Deml yn Jerwsalem, ond parhaodd i weddïo yn ei alltudiaeth – gan agor ei ffenestr tuag at Jerwsalem. Er ei fod ar ei ben ei hun, roedd yn ymuno â gweddïau’r bobl ble bynnag yr oeddent. Heddiw, rydym ninnau hefyd wedi’n gwahanu oddi wrth ein gilydd yn gorfforol, ond pan fyddwn yn gweddïo yn ein cartrefi, rydym yn rhan o’r hen draddodiad hwn o weld ein cartref fel tŷ gweddi. Ble bynnag yr ydym, pryd bynnag y gweddïwn, pan lefarwn am Grist a meddwl amdano, yno mae yntau yn ein canol. Unwn ein gweddïau â gweddïau pawb sy’n gweddïo yn ein heglwysi ni ein hunain ac mewn cymunedau ledled y byd.
Fel Arweinwyr Eglwysig o’r holl amrywiaeth o eglwysi yn yr Ynysoedd hyn, galwn ar bawb i ymuno â ni yn ystod yr Wythnos Fawr a thros y Pasg eleni: i weddïo dros y rhai sy’n dioddef, dros y rhai sy’n wynebu marwolaeth annhymig a thros bawb sy’n gofalu amdanynt; i gyd-ddathlu ein ffydd gyffredin ar adeg anodd; i gynorthwyo ein cymdogion sydd mewn angen ac i fod yn gefn iddynt; ac i gadw at yr holl fesurau diogelwch a sefydlwyd i lesteirio lledaeniad y clwyf.
Ein Gweddi
Dduw cariadus, yn Iesu Grist, a fu farw ac a atgyfododd er ein hiachawdwriaeth, diddyma dywyllwch ein pryder, ein ofn a’n galar, cofleidia ni â’th gariad a rho i ni lawenydd a gobaith y Pasg hwn. Amen.
- Archbishop John Davies, Archbishop of Wales.
- Archbishop Justin Welby, Archbishop of Canterbury.
- Cardinal Vincent Nichols, Archbishop of Westminster.
- Very Rev Dr William Henry, Moderator General Assembly, Presbyterian Church of Ireland.
- Rt. Revd Colin Sinclair, Moderator General Assembly, Church of Scotland.
- Archbishop Eamon Martin, Archbishop of Armagh.
- Commissioner Anthony Cotterill, The Salvation Army.
- Revd Nigel Uden, Moderator of General Assembly, United Reformed Church.
- Archbishop-elect John McDowell, Archbishop of Armagh.
- Bishop Hugh Gilbert, Bishop of Aberdeen.
- Revd Dr Barbara Glasson, President Methodist Church of Great Britain.
- His Eminence Archbishop Nikitas, Archbishop of Thyateira and Great Britain.
- Revd Lynn Green, General Secretary Baptist Union of Great Britain.
- Bishop Mark Strange, Primus, Scottish Episcopal Church.
- His Eminence Archbishop Angaelos, Coptic Archbishop of London.
- Pastor Agu Irukwu, Redeemed Christian Church of God.
- Mr Rheinallt Thomas, President Free Church Council Wales.
- Revd Hugh Osgood, Moderator Free Church Federal Council.
- Revd Brian Anderson, President Irish Council of Churches.
- Revd Sam McGuffin, President Methodist Church in Ireland.
- Gavin Calver, CEO Evangelical Alliance.
- Paul Parker, Religious Society of Friends.