Eglwys yn Cynnig Hyfforddiant Cymorth Cyntaf i Grymuso Cymuned

Yn ddiweddar, treialodd ardal Weinidogaeth Pedair Afon brosiect a welodd 35 o unigolion o ddwy o ardaloedd mwyaf difreintiedig yr MA yn derbyn hyfforddiant a allai achub bywyd. Dywedodd 100% o’r cyfranogwyr eu bod yn fwy hyderus i berfformio CPR a defnyddio diffibriliwr yn dilyn y sesiwn hyfforddi.
Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol oherwydd bod pobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is yn llai tebygol o dderbyn CPR gan wylwyr, cael mynediad at ddiffibriliwr, ac yn y pen draw goroesi ataliad ar y galon. Cyflwynwyd y cwrs yn rhad ac am ddim gan y Parchg Geraint John sy’n gwirfoddoli fel Ymatebwr Cyntaf Cymunedol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac sy’n Hyfforddwr Cynnal Bywyd Sylfaenol cymwys. Gwnaeth y rhan fwyaf o gyfranogwyr gyfraniad bach i dalu costau deunyddiau hyfforddi a nwyddau traul ond nid oedd hyn yn ofynnol.
Dywed y Parch Geraint, 'Mae hon yn fenter bwysig iawn a all helpu’r eglwys leol i ymgysylltu â, a chwarae rhan weithredol wrth adeiladu cymunedau gwydn.
Mae ymchwil wedi dangos, pan fydd ataliad ar y galon yn digwydd, bod cynnydd sylweddol mewn cyfraddau goroesi pan ddechreuir CPR yn brydlon a phan fydd diffibriliwr yn cyrraedd yn gyflym. Gydag 80% o ataliadau ar y galon yn digwydd gartref, mae’n bosibl y gallai’r rhai sy’n dysgu CPR achub bywyd anwylyd neu gymydog.
Mae hyfforddiant cymorth cyntaf yn weithred o gariad ar waith - gofalu am ein cymydog fel y gorchmynnodd Crist.'
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llandaf:
Esgobaeth Llandaf - Y Newyddion Diweddaraf