Yr Eglwys yn cefnogi cynigion ar gyfer newid blaengar mewn cyfraith claddedigaethau
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi newid blaengar arfaethedig i’r gyfraith claddedigaethau a fyddai’n trosglwyddo gofal i awdurdodau lleol am fynwentydd sydd wedi cau.
Yng Nghymru, mae’n rhaid i fynwentydd eglwysig sydd wedi cau oherwydd eu bod yn llawn gael eu cynnal a chadw gan y cynulleidfaoedd. Gallai hyn newid dan gynigion a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith i drosglwyddo eu gofal i awdurdodau lleol, fel sy’n digwydd yn Lloegr.
Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar y newidiadau arfaethedig i’r gyfraith Claddu ac Amlosgi a chaiff pobl eu hannog i ymateb.
Dywedodd Alex Glanville, Cyfarwyddwr Strategaeth Eiddo yr Eglwys yng Nghymru, y bu cost cynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau yn faich trwm ac annheg ar eglwysi am flynyddoedd lawer.
"Mae hwn yn cynnig newid blaengar a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar yr Eglwys yng Nghymru.
“Yr Eglwys yng Nghymru yw’r unig enwad yng Nghymru sydd â rhwymedigaeth i gladdu plwyfolion i gyd, yn ddiwahân – dyletswydd debyg i Eglwys Lloegr. Fodd bynnag, nid yw’r pŵer cyffelyb gennym i drosglwyddo cynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau i awdurdodau lleol.
“Credwn fod y newid arfaethedig yn y gyfraith yn deg. Nid yw ein cynulleidfaoedd yn derbyn unrhyw incwm o fynwentydd sydd wedi cau felly mai baich cynnal a chadw yn bwysau trwm arnynt.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am grantiau ar ddisgresiwn gan rai cynghorau lleol ac anogwn eraill i ystyried gwneud yr un fath. Ond rydym yn credu y dylid medru trosglwyddo cyfrifoldeb i’r Awdurdod Lleol am gynnal a chadw mannau claddu cymunedol sy’n llawn.”
Medrir gweld yr ymgynghoriad yn Burial and Cremation - Law Commission. Mae’r cynnig ar fynwentydd sydd wedi cau ym Mhennod 7 a chwestiwn 31. Gellir gwneud sylwadau ar borth ar-lein fel y manylir yn yr ymgynghoriad. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 9 Ionawr 2025.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr argymhellion a phryd i gyflwyno deddfwriaeth. Cafodd llawer o’r gyfraith yn y maes hwn ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Mae’r lluniau yn dangos Mynwent Tanysgafell, ger Bethesda yng Ngogledd Cymru. Mae’r fynwent yn amgylchynu olion capel a chafodd ei defnyddio rhwng 1848 a 1913.
Mae’r rhai a gladdwyd yma yn cynnwys chwarelwyr, nad oedd llawer ohonynt yn byw tu hwnt i’w 40au. Mae’r fynwent yn gyfrifoldeb Ardal Gweinidogaeth Bro Ogwen. Yn ddiweddar bu’n rhaid i blwyfolion godi llawer o arian i atgyweirio muriau a gwaith ar goed yn dilyn pryderon am gymdogion am beryglon.
Ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith
Claddu ac amlosgi