Eglwys i fuddsoddi bron i £10m mewn cynlluniau newydd i hybu twf
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o bron i £10m mewn pedwar prosiect mawr sydd wedi’u cynllunio i hybu twf mewn cynulleidfaoedd eglwysi ledled y wlad.
Bydd prosiectau yng ngogledd ddwyrain Cymru, yn Abertawe ac yn Sir Fynwy yn cael grantiau gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu mentrau, canolfannau a chymunedau eglwysig newydd.
Mae’r grantiau’n cael eu rhoi o Gronfa Twf yr Eglwys, lle mae’r Eglwys yn buddsoddi £100m mewn menter arloesol i gefnogi prosiectau i ddarparu adnoddau ar gyfer efengylu hyderus a chyson ledled Cymru.
Mae Cronfa Twf yr Eglwys wedi ei datblygu o raglen ddiweddar arall gan yr Eglwys yng Nghymru, sef y Gronfa Efengylu. Mae’r cynllun hwnnw wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu i greu cynulleidfaoedd sy’n tyfu’n gyflym mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys yn Stryt yr Hôb yn Wrecsam ac Eglwys Citizen yng Nghaerdydd, yn ogystal â’r prosiect arloesol, Pererin, sydd yn datblygu llwybr pererinion yng Ngwynedd.
Chwe Eglwys Hyb Cenhadol yn esgobaeth Llanelwy
Bydd un o’r pedwar prosiect newydd yn creu chwe ‘Eglwys Hyb Cenhadol’ newydd yn esgobaeth Llanelwy, sydd eisoes wedi sefydlu pedwar prosiect Hyb llwyddiannus o’r fath ers 2021 yn Y Trallwng, Bae Penrhyn, Yr Wyddgrug a Threffynnon. Mae pob Hyb yn cael ei arwain gan Offeiriad Hyb Cenhadol profiadol, gyda chefnogaeth offeiriad cyswllt a gweinidog lleyg sy’n canolbwyntio ar allgymorth. Bydd pob Hyb yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer rhedeg a thyfu eglwys, gyda phobl yn cael eu hannog i ddod i mewn i'w heglwys ar gyfer ystod o addoliad a gweithgareddau eraill.
Diolch i fuddsoddiad newydd o £4.6m, bydd chwe phrosiect pellach yn cael eu sefydlu rhwng 2024 a 2030, gan ddechrau gydag Eglwys yr Holl Saint, Y Drenewydd, Eglwys Crist, Prestatyn ac Eglwys San Silyn, Wrecsam.
Cenhadon Arloesol mewn ardaloedd gwledig
Mae’r ail brosiect, sydd hefyd yn esgobaeth Llanelwy, yn gynllun lle bydd ychydig dros £1m yn cael ei fuddsoddi i greu tîm o Genhadon Arloesol mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yn Archddiaconiaeth Trefaldwyn yn ardal ddeheuol yr esgobaeth. Bydd y gwaith yn cynnwys cefnogi cenhadu mewn cynulleidfaoedd eglwysig yn ogystal ag ymgysylltu â phobl lle maent, megis mewn ysgolion a thafarndai, a thrwy ddigwyddiadau cymdeithasol a gwledig.
Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron: ‘Rwy’n gyffrous i weld yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi’r gwaith da yr ydym yn ei wneud yn Llanelwy i adnewyddu a datblygu ein bywyd Eglwysig. Gall eglwysi fod yn ganolfanau ffydd, gobaith a chariad yn ein holl gymunedau, ac mae’r mentrau hyn yn tanlinellu ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i wasanaethu pobl gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru yn effeithiol.”
Buddsoddiad sylweddol mewn eglwys yng nghanol Abertawe
Mewn prosiect arall, gwerth cyfanswm o £2.8m dros bum mlynedd, Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Abertawe fydd yr eglwys cyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi yn eglwys Mystwyr (‘Minster’ yn Saesneg), y flwyddyn nesaf, gan helpu i greu swyddi a diogelu dyfodol yr adeilad amlwg hwn yng nghanol Abertawe.
Dywedodd Ficer y Santes Fair, Canon Justin Davies: “Rydym wrth ein bodd ac yn gyffrous bod yr Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi buddsoddiad sylweddol yn Eglwys y Santes Fair sydd yng nghanol ail ddinas Cymru.
“Bydd hyn yn galluogi cyflogi aelodau newydd o staff, yn glerigwyr a gweithwyr lleyg, gan gynyddu ein gallu i wasanaethu cymuned canol dinas Abertawe, boed yn breswylwyr, gweithwyr, ymwelwyr, ffoaduriaid neu’r digartref. Byddwn yn creu ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd newydd, mannau diogel i bobl ifanc a chyfleusterau addoli newydd, gan ganiatáu i ystod ehangach a mwy amrywiol o addoli ddigwydd. Byddwn yn croesawu ymwelwyr ag amrywiaeth o weithgareddau i archwilio’r Santes Fair, hanes Abertawe a’r bobl sydd gennym y tu mewn.”
Bydd Eglwys y Santes Fair, a ailadeiladwyd yn y 1950au ar ôl cael ei dinistrio yn ystod blitz y Natsïaid dros dri diwrnod yn yr Ail Ryfel Byd, yn cael ei dynodi'r flwyddyn nesaf yn eglwys mystwyr- teitl a roddir i eglwys fawr neu bwysig, yn enwedig a eglwys golegol neu eglwys gadeiriol, ac sy’n adlewyrchu pwysigrwydd Eglwys y Santes Fair i'r ddinas.
Gwaith cenhadol ar gyfer ysgolion yn esgobaeth Mynwy
Yn y pedwerydd o’r prosiectau newydd, mae Esgobaeth Mynwy wedi sicrhau cyllid o fwy na £1m i helpu i dyfu cymunedau addoli newydd drwy feithrin perthnasoedd cryfach ag ysgolion.
Bydd y prosiect yn darparu Arloeswr Ymgysylltu ag Ysgolion (SEP) ar gyfer pedwar lleoliad a ddewiswyd yn ofalus – Gogledd Sir Fynwy, Dwyrain Caerdydd, Islwyn, a’r Fenni – a fydd yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion eglwysig a chymunedol yn yr ardal, gan wahodd plant ysgol a’u teuluoedd i’r cymunedau addoli newydd.
Dywedodd yr Hybarch Ian Rees, Archddiacon Mynwy a Chyfarwyddwr Gweinidogaeth a Disgyblaeth Esgobaethol: “Mae’r arloeswyr a fydd yn ymgysylltu ag ysgolion yn fenter newydd gyffrous iawn i’r esgobaeth a’i gwaith gydag ysgolion, pobl ifanc a theuluoedd. Bu pedair ardal weinidogaeth yn llwyddiannus yn eu cais am arloeswr ac rydym yn sicr, drwy gydweithio â’r ardaloedd gweinidogaeth hynny, y byddant yn helpu i ddatblygu cymunedau addolgar newydd bywiog a hefyd yn helpu i ennyn brwdfrydedd ac egni cynulleidfaoedd eraill yn yr ardaloedd gweinidogaeth hynny hefyd. "
Mae’r prosiect pum mlynedd yn canolbwyntio ar feithrin perthynas gyda disgyblion oed cynradd ac uwchradd, eu rhieni, athrawon a’r teulu ysgol ehangach mewn modd sy’n mynd y tu hwnt i wasanaethau ysgol. Mae'n adeiladu ar wersi prosiect peilot a ddechreuodd y llynedd ac yn seiliedig ar waith ymchwil ac ymgynghori helaeth a gynhalwyd gydag Ardaloedd Gweinidogaeth wrth barfatoi am y broses o ymgeisio am arian. Disgwylir i’r gwaith i recriwtio'r arloeswyr newydd ddechrau eleni.
Dywedodd Isabel Thompson, Ysgrifennydd yr Esgobaeth: “Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn ar gyfer gweinidogaeth ysgolion a theuluoedd yn newyddion cyffrous iawn i’r esgobaeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r newyddion diweddaraf i bawb am ein prosiectau newydd, wrth i ni wylio’r cymunedau addoli newydd hyn yn tyfu.”
Croesawu’r mentrau newydd
Meddai Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John: “Mae Cronfa Twf yr Eglwys yn gam trawsnewidiol ymlaen yn ein cenhadaeth i gyrraedd cymunedau ledled Cymru gyda chariad a gobaith yr Efengyl. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn galluogi eglwysi i dyfu, i arloesi ac i ddod yn ganolfannau ffydd bywiog. Rwy’n gyffrous i weld yr efengyl ar waith a’r effaith gadarnhaol y byddwn yn ei chael yn ein cymunedau oherwydd ein buddsoddiad sylweddol mewn efengylu.”
Dywedodd Simon Lloyd, Prif Weithredwr Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru: “Mae’n bleser gan Gorff y Cynrychiolwyr ddyfarnu’r Grantiau Cronfa Twf Eglwysi hyn i bedwar prosiect arloesol a chyffrous yn Esgobaethau Fynwy, Llanelwy ac Abertawe ac Aberhonddu. Mae pob un o’r pedwar grant yn darparu adnoddau ychwanegol dros nifer o flynyddoedd i alluogi eglwysi lleol i ymgysylltu a gwasanaethu eu cymunedau lleol. Edrychaf ymlaen at glywed hanesion am dwf a bywydau sydd wedi’u heffeithio gan gariad Duw a newyddion da’r Efengyl.”