Yr Eglwys yn croesawu adroddiad IICSA
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn croesawu adroddiad heddiw gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gamdrin Plant yn Rhywiol (IICSA) ar yr Eglwysi Anglicanaidd yn Lloegr a Chymru ac yn ymrwymo i gymryd ei holl argymhellion yn ddifrifol iawn.
Mae adroddiad IICSA yn seiliedig ar wrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, a archwiliodd ein hymateb i honiadau am gamdrin plant yn rhywiol, yn ogystal ag os oedd ein polisïau ac arferion diogelu yn ddigonol.
Mae’r datganiad llawn yn dilyn
Datganiad mewn ymateb i adroddiad IICSA
Croesawn adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gamdrin Plant yn Rhywiol ar yr Eglwysi Anglicanaidd yn Lloegr a Chymru, a gyhoeddwyd heddiw (6 Hydref) a diolchwn i banel a staff yr Ymchwiliad am eu gwaith trwyadl a gofalus yn ei gynhyrchu.
Byddwn yn cymryd yr holl argymhellion yn ddifrifol iawn. Ein blaenoriaeth yw bod yn eglwys lle mae pawb yn ddiogel a bod croeso iddynt, a’u bod yn teimlo hynny, a lle caiff diogelu ei ddeall i fod yn gyfrifoldeb pawb.
Mae’r Adroddiad yn gwneud nifer o sylwadau perthnasol ar gyfer gwella’r arferion a pholisïau y gwnaethom eu cyflwyno i’r Ymchwiliad ym mis Gorffennaf 2019. Byddwn yn edrych arnynt yn fanwl ac yn adrodd yn ôl ar ein cynlluniau i weithredu’r rhai sydd heb eu cyflawni eto.
Rydym wedi buddsoddi, ac yn parhau i fuddsoddi, yn ein pobl a’n prosesau fel blaenoriaeth ar gyfer yr holl Eglwys yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych sut i hybu ein perthynas waith gydag Eglwys Lloegr ac asiantaethau statudol.
Gwyddom i ni fethu mewn nifer o ardaloedd yn y gorffennol ac ymddiheurwn yn ddiamod i bawb yr effeithiwyd arnynt fel canlyniad. Rydym yn parhau i gadw pawb a oroesodd gam-driniaeth yn ein gweddïau ac yn barod i gefnogi unrhyw un sy’n dod ymlaen gydag unrhyw gonsyrn.
Os yw cyhoeddi’r adroddiad hwn wedi effeithio arnoch chi ac yr hoffech siarad gyda rhywun yn annibynnol:
- Ffoniwch linell gymorth Safe Spaces ar 0300 303 1056 neu email: safespaces@victimsupport.org.uk.
- Mae manylion llawn sut i gysylltu â’r Swyddogion Diogelu Taleithiol ar gael yn https://www.churchinwales.org.uk/en/safeguarding/