Yr Eglwys yn croesawu adroddiad terfynol IICSA
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn croesawu adroddiad terfynol heddiw gan yr Ymchwiliad Annibynnol ar Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA)ac yn ymrwymo i gymryd ei argymhellion yn ddifrifol iawn.
Cafodd polisïau ac arferion yr Eglwys ar ddiogelu a’i hymateb i honiadau am gam-drin plant yn rhywiol eu harchwilio gan banel y Tribiwnlys mewn gwrandawiadau cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2019. Cyhoeddodd IICSA ei adroddiad interim ar yr Eglwysi Anglicanaidd yn Lloegr a Chymru ym mis Hydref 2020.
Datganiad mewn ymateb i adroddiad terfynol IICSA
Croesawn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Annibynnol ar Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) a gyhoeddwyd heddiw (DYDD IAU). Bu’r Ymchwiliad, y cymerodd yr Eglwys yng Nghymru ran ynddo fel cyfranogydd craidd, yn dasg enfawr a thalwn deyrnged i banel y Tribiwnlys a’r staff cefnogi am eu gwaith trwyadl a’u hymroddiad dros y saith mlynedd ddiwethaf.
Yn bennaf oll diolchwn i’r rhai a ddioddefodd ac a oroesodd gam-driniaeth am gymryd rhan yn yr hyn y mae’n sicr iddi fod yn broses anodd tu hwnt, oedd angen llawer o ddewrder.
Mae’r adroddiad yn ddogfen sylweddol fydd yn awr yn cymryd amser i’w dirnad a’i hystyried. Byddwn yn parhau i gymryd unrhyw argymhellion pellach y mae’r adroddiad yn ei gwneud yn ddifrifol iawn gan ein bod yn ymroddedig i ddatblygu’r safonau gorau posibl mewn diogelu.
Ein blaenoriaeth yw bod yn Eglwys lle mae pawb yn ddiogel ac yn cael eu croesawu, ac yn teimlo hynny, a lle caiff diogelu ei ddeall i fod yn gyfrifoldeb pawb. Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein pobl, ein prosesau a’n hyfforddiant i gyflawni hyn.
Gwyddom i ni fethu mewn nifer o feysydd yn y dyfodol ac unwaith eto ymddiheurwn yn ddiamod i bawb yr effeithiwyd arnynt fel canlyniad. Rydym yn cadw yn ein gweddïau bawb a oroesodd gam-driniaeth ac rydym yn barod i gefnogi unrhyw un a ddaw ymlaen gydag unrhyw gonsyrn.
Os yw cyhoeddiad yr adroddiad hwn wedi effeithio arnoch ac yr hoffech siarad gyda rhywun annibynnol, gallwch gysylltu â:
- Safe Spaces, sy’n cefnogi goroeswyr cam-driniaeth cysylltiedig ag eglwysi
Llinell gymorth: 0300 303 1056 Email: safespaces@victimsupport.org.uk
I weld Polisi Diogelu’r Eglwys yng Nghymru a’i chanllawiau gweithdrefnol (diweddarwyd Mehefin 2022), i gysylltu â swyddogion diogelu yr Eglwys yng Nghymru neu i’w hysbysu am fater o gonsyrn, ewch i: