Yr Eglwys yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar danwydd ffosil
Mae Cristnogion yng Nghymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â fforio am olew a nwy i ben o fewn y 15 mlynedd nesaf.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn canmol ei phenderfyniad i ymuno â’r Beyond Oil and Gas Alliance (BOGA). Mae BOGA yn gynghrair o 10 cenedl a rhanbarth yn cynnwys Denmarc, Costa Rica, Ffrainc ac Iwerddon sydd wedi ymrwymo i ddod â’r holl fforio am olew a nwy i ben erbyn 2035.
Gwnaed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ystod uwchgynhadledd hinsawdd COP26 a gynhaliwyd yn Glasgow yn ddiweddar.
Dywedodd Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi a chadeirydd CHASE, grŵp hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru: “Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir ar gyfer Cymru a rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dangos cymaint o weledigaeth fel arweinydd.
Mae’r ymrwymiad yn enghraifft o’r gweithredu hanfodol sydd ei angen ar bob lefel o gymdeithas i atal newid trychinebus yn yr hinsawdd.”
Yn dilyn cwblhau trafodaethau COP26, mae’r Eglwys yng Nghymru yn galw am benderfyniad o’r newydd i gadw cynhesu byd-eang dan y lefel cymharol ddiogel o 1.5 gradd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol.
Yn gynharach eleni, ymrwymodd Corff Llywodraethol yr Eglwys i fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac yn awr, yn dilyn COP26, caiff eglwysi eu hannog i:
- Barhau i ddefnyddio adnoddau rhagorol Climate Sunday fydd yn parhau i fod ar gael ar wefan Climate Sunday Climate Sunday | Home | Worship | Commit | Speak Up Gallwch wahodd eglwysi eraill o bob enwad i gydweithio gyda chi ar gyfer gweddi, cefnogaeth ac annog eich gilydd.
- Dilyn y camau syml a rhwydd yn llyfryn ‘Llwybr ymarferol i sero net’ yr Eglwys yng Nghymru i’w gosod eu hunain ar eu llwybr sero net eu hunain. Mae’r llyfryn ar gael ar dudalen gwefan Newid Hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru: Newid hinsawdd – Yr Eglwys yng Nghymru
- Cofrestru ar gyfer Eco-Eglwys A Rocha Eco Church - An A Rocha UK Project. A fedrai Eco-Eglwys fod yn Brosiect Adfent eich eglwys eleni? A gallech anelu i ennill y wobr Efydd erbyn Sul Creadigaeth fis Medi nesaf.