Gosteg wedi'r storm
Mae eglwys yng Ngwynedd wedi ennill gwobr £1500 fel Enillydd Rhanbarthol Cymru yng nghystadleuaeth y cwmni Ecclesiastical Insurance, gyda’u syniad o greu gardd dawelwch0 i fyfyrio ynddi a chofio’r bywydau a gollwyd yn ystod y pandemig Covid.
Bydd yr ardd, sydd y tu cefn i Eglwys y Drindod Sanctaidd ym Mhenrhyndeudraeth, yn cynnwys gwelyau uchel ar gyfer blodau a llysiau a fydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwynion, ardal eco gadwraeth ar gyfer addysg, a meinciau i eistedd arnynt a mwynhau golygfeydd o aber afon Dwyryd.
Bydd yr eglwys nawr yn ymddangos ynghyd â 4 o ranbarthau eraill y Deyrnas Unedig yn y rownd derfynol yn Llundain ym mis Mai 2022.
"Cafodd y syniad o ardd yn y dref brysur y gall pawb ymweld â hi i orffwys a myfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf ei ystyried beth amser yn ôl, ond yr hyn a’n sbardunodd i wireddu’r cam cyntaf hwn oedd y cyfle i roi cynnig ar y gystadleuaeth hon, ynghyd â chefnogaeth Cymdeithas y Cerddwyr a’r cynllun gwneud iawn â’r gymuned, a busnesau a thrigolion y dref," meddai Angela Swann, Ysgrifennydd yr Eglwys.
- I roi eich pleidlais i’r ardd, cliciwch yma:
www.ecclesiastical.com/church/competition/winners/wales/
Cliciwch ar y botwm ‘Show Your Support’