'Mae’r eglwysi’n dod o’r cyfnod clo gydag ysbryd newydd' - Archesgob
O wasanaethau sy’n cael eu ffrydio yn fyw i foreau coffi digidol, mae’r cyfnod clo wedi rhoi hwb ymlaen i eglwysi ddod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous o gynnig gweinidogaeth, meddai Archesgob Cymru heddiw (9 Medi).
Yn ei Anerchiad y Llywydd i aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys, dywedodd yr Archesgob John Davies bod y pandemig wedi cynnig cyfleoedd annisgwyl a bod yr eglwysi yn dod o’r cyfnod clo gydag ysbryd newydd ac agwedd “fe allwn ni”.
Am y tro cyntaf erioed, mae cyfarfod y Corff Llywodraethol yn digwydd ar-lein, oherwydd y pandemig. Mae’r 144 o aelodau, o eglwysi o bob rhan o Gymru, yn cyfarfod am bedair sesiwn heddiw ac yfory sy’n cael eu ffrydio yn fyw ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Yn ei anerchiad ar ddechrau’r cyfarfod, dywedodd yr Archesgob, “Gallwch chi a minnau, a chyfran helaeth o’r byd, feddwl ein bod yn dod allan yn araf a phetrus iawn, a gyda phryder dwys sydd â chyfiawnhad llawn iddo, o alltudiaeth dywyll, yr alltudiaeth a grëwyd gan y pandemig COVID-19. Nid oes angen i mi ailadrodd elfennau radical a dychrynllyd yr alltudiaeth honno, ond bydd yn ddigon i’n diben ni i mi gadarnhau ei fod wedi cynnig cyfleoedd annisgwyl i ystyried ein bywydau ac adnewyddu ein cân, ac mae’n parhau i wneud hynny. Bu llawer o sôn mewn sawl man am y normal newydd, gan gynnwys yn yr eglwys, ac mae’n rhoi’r cyfle i ni i gydnabod beth allai hyn ei olygu i ni a chael ein cyffroi gan hynny. Gallwn ddisgrifio hyn fel damwain lwcus, mantais nad oedd wedi ei rhagweld wrth i’r posibilrwydd o les ymddangos o set o amgylchiadau mor anaddawol.”
Mae croesawu gweinidogaeth ddigidol wedi galluogi eglwysi i gysylltu â miloedd o bobl, dywedodd yr Archesgob John.
“Byddai’n naïf iawn i unrhyw un gredu bod pob ymweliad â phob gwefan eglwys neu dudalen Facebook yn cynrychioli unigolyn sy’n cymryd rhan o’r dechrau i’r diwedd yn yr hyn a gynigir, ond nid oes amheuaeth, trwy ddulliau o’r fath, ein bod wedi cysylltu â miloedd o bobl na fyddem yn dod ar eu traws fel arall; rydym wedi cyffwrdd â’u meddyliau, calonnau a bywydau, ac mewn ffyrdd gwahanol rydym wedi datgelu eglwys sy’n gallu cyd-gerdded â nhw, gan eu croesawu a’u haddysgu. Dyma newydd-deb yn ein cân. Rhaid i hyn barhau.”
Rhoddodd yr Archesgob anogaeth i’r eglwys gyfan groesawu newid. Dywedodd, “Mae gennyf wir ymdeimlad bod pethau newydd yr ydym wedi gobeithio amdanynt, rhywfaint o’r symbyliad ymlaen oedd yn ddiffygiol, wedi cael eu gorfodi arnom gan yr amgylchiadau presennol, ac yn hytrach na gorwedd i lawr a gadael i amgylchiadau o’r fath ein trechu, rydym yn dod trwyddi gydag ysbryd newydd a’r argyhoeddiad cynyddol ‘fe allwn ni’ sydd yn adnewyddu ein cân yn hytrach na’r agwedd ‘na allwn fyth’ oedd yn golygu ei fod yn cael ei ailadrodd hyd syrffed.
“Am hyn rwy’n llawenhau; ac rwy’n canmol yn dwym galon bawb sy’n cyfrannu at yr adnewyddiad. Ac o ran y rhai cyndyn, rwy’n annog dau beth yn unig: ymddiriedwch a rhowch gynnig arni.”
Undod a Diben
Mae’r cyfnod clo hefyd wedi dod â mwy o ymdeimlad o undod yn yr eglwys, dywedodd yr Archesgob John. Mae’r Corff Cynrychiolwyr wedi camu i mewn i gefnogi eglwysi yn ariannol, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi dioddef ergyd ariannol sylweddol ei hun, ac mae’r chwech Esgobaeth wedi cael eu dwyn at ei gilydd gydag ymdeimlad newydd o bwrpas. Sefydlwyd grŵp strategol hefyd, Grŵp Ymgynghorol yr Archesgob, i gydlynu a chynllunio at y dyfodol.
Dywedodd yr Archesgob, “Bydd y grŵp newydd yn cyfarfod yn gyson, gan ganolbwyntio ar yr hyn y dylai’r eglwys fod yn ceisio ei wneud yn well, craffu ar rai o’r strwythurau sydd gennym ac a allai fod â ffocws gwell, bod yn realistig am aelodaeth safonol i lawer o’n cyrff taleithiol, a chwilio am gyfleoedd i agosáu at rai o’r sefydliadau yn ein cenedl y gallwn weithio gyda nhw er lles y bobl.”
Yr anerchiad llawn
Anerchiad y Llywydd